Yma i chi

Cefnogaeth gyfeillgar a gwybodus

 

Mae ein tîm o dros 350 o unigolion medrus a gwybodus wrth law i gefnogi ysgolion a cholegau wrth iddynt gyflwyno ein cymwysterau. Yn wahanol i gyrff dyfarnu eraill, rydym yn caniatáu cyswllt uniongyrchol ag arbenigwyr pwnc a thimau cefnogi – i'ch helpu chi bob cam o'r ffordd.

 

Yn fwy na hynny, mae ein harbenigwyr pwnc i gyd yn gyn-athrawon/darlithwyr, ac felly maent mewn sefyllfa berffaith i roi'r holl gyngor ac arweiniad ymarferol sydd ei angen arnoch.

 

I gysylltu â'ch arbenigwr pwnc, ewch i dudalen eich pwnc.

 

 

Cymwysterau dibynadwy a gwerthfawr

 

Mae ein cymwysterau wedi'u cydnabod yn rhyngwladol ac maent wedi'u llunio yn ofalus i roi cyfle i ddysgwyr ddangos yr hyn maent yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud – gan sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau a'r ddealltwriaeth ar gyfer y cyfnod nesaf yn eu bywydau, gan gynnwys addysg uwch, a chyflogaeth.

 

Rydym wedi ymrwymo i ailfuddsoddi a pharhau i wella ein cymwysterau, ac fel rhan o'n proses datblygu cymwysterau, rydym yn ymgysylltu ag amrediad o arbenigwyr gan gynnwys academyddion ac arweinwyr yn y gweithlu i sicrhau eu bod yn datblygu'r holl setiau sgiliau a'r cymwyseddau angenrheidiol.

Dysgwch sut rydym yn datblygu cymwysterau.


Mae rhestr lawn o'n cymwysterau i'w chael yma.

 

 

Adnoddau digidol rhad ac am ddim

 

Cydweithiwn yn agos ag arbenigwyr yn y sector i ddatblygu dewis heb ei ail o ddulliau, adnoddau a deunyddiau addysgu a dysgu dwyieithog. Mae'r rhain yn cefnogi ein cymwysterau ac yn ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr. Mae ein dewis llawn o adnoddau digidol rhad ac am ddim i'w gael ar ein gwefan.

 

 

Pecyn hyfforddi cynhwysfawr

 

Arbenigwyr sy'n arwain ac yn llunio ein cyrsiau ar gyfer athrawon. Byddant yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am gymwysterau ac asesiadau, yn rhoi cipolwg o'r adnoddau addysgu sydd ar gael, ac yn cynnig dewis o awgrymiadau a strategaethau ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth.

Ewch i'n gwefan i weld ein hamserlen lawn o gyfleoedd hyfforddi.

 

 

Pam dylech chi fynychu ein cyrsiau Dysgu Proffesiynol?

 

 

Dwyieithog

 

P'un a ydych yn addysgu drwy gyfrwng Cymraeg neu Saesneg, mae gennym gymwysterau ac adnoddau addysgu a dysgu sy'n addas i chi.

 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

 

I sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer eich pwnc/pynciau, gan gynnwys adnoddau a chyfleoedd hyfforddi tanysgrifiwch i'n rhestr bostio.

 

Peidiwch ag anghofio bod ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu diweddaru yn rheolaidd, felly dilynwch ni ac ymunwch â’r drafodaeth:

 

     

Fel elusen, rydym wedi ymrwymo i ailfuddsoddi a pharhau i wella'r gefnogaeth, yr adnoddau a'r cymwysterau a ddarparwn i ysgolion, colegau a dysgwyr.