Ein cynhyrchion a'n gwasanaethau

Cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol 

 

Rydym yn cynnig dros 400 o gymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a galwedigaethol, ac mae'r gyfres hon yn parhau i dyfu, er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn berthnasol i anghenion ein dysgwyr, athrawon a chyflogwyr. Mae pob cymhwyster wedi'i gydnabod yn rhyngwladol ac wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr 14-19 oed, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau iddynt ddatblygu, llwyddo a gwneud cynnydd ym mha bynnag lwybr maent yn dewis ei ddilyn.  

   

Cefnogaeth gan arbenigwyr pwnc 

 

Mae gennym dîm ymroddedig o arbenigwyr pwnc, sydd â phrofiad helaeth yn yr ystafell ddosbarth. Ein Swyddogion Pwnc sy'n arwain y gwaith o ddatblygu pob un o'n cymwysterau ac felly gallant gynnig cyngor arbenigol pragmataidd a phwrpasol.  

   

Dewis heb ei ail o adnoddau digidol 

 

Mae'r tîm Adnoddau Addysgol ymroddedig yn cydweithio'n agos ag athrawon ac arweinwyr y sector ar gynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau arloesol, amrywiol ac atyniadol i gefnogi ein cymwysterau. Yn wahanol i gyrff dyfarnu eraill, mae ein hadnoddau digidol ar gael am ddim i athrawon a myfyrwyr, gan gynorthwyo pob cam o'r broses ddysgu.  

   

Dysgu Proffesiynol o’r radd flaenaf

 

Cynigiwn becyn hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer pob athro sy'n defnyddio ein manylebau. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys cyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb ac ar-lein dan arweiniad arbenigwyr pwnc sy'n gallu cynnig hyfforddiant arbenigol. Cynhelir ein hyfforddiant blaenllaw yn y sector mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru.