WJEC CBAC Cyfyngedig sy'n berchen ar y wefan hon ("CBAC", "ni", "ein" neu "y cwmni"). Mae eich defnydd o'r gwefannau ("y wefan/ein gwefan(nau)") yn cael ei reoli gan y telerau a'r amodau hyn.

 

1. Diwygiadau

Rydym yn cadw'r hawl i ychwanegu at, newid neu gael gwared ar adrannau o'r telerau ac amodau ar y dudalen hon ar unrhyw adeg heb hysbysu o flaen llaw. Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i gynnwys neu strwythur y wefan, y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir drwy'r wefan ar unrhyw adeg. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon rydych yn derbyn y telerau a'r amodau. Os nad ydych chi'n cytuno ag unrhyw delerau ac amodau isod, dylech adael y wefan ar unwaith.

 

2. Diffiniadau

Mae WJEC, CBAC a WJEC/CBAC yn enwau masnachu WJEC CBAC Cyfyngedig, cwmni cyfyngedig drwy warant, wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (Rhif 3150875) ac elusen gofrestredig (Rhif 1073332). Mae'r Swyddfa Gofrestredig yn 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX.

Mae 'y cwmni' yn cyfeirio at WJEC CBAC Cyfyngedig a'i frandiau is-gwmni.

Mae cynnyrch a gwasanaethau yn cyfeirio at unrhyw gyhoeddiadau, cymwysterau, adnoddau, gwasanaethau, cefnogaeth neu unrhyw eitemau a brynir neu a ddarperir drwy'r wefan neu fel arall.

Mae ymwelydd yn cyfeirio at y person sy'n ymweld â'r wefan ac yn cyrchu'r cynnwys.

Mae gwefan(nau) yn cyfeirio at wefan WJEC (www.wjec.co.uk), gwefan CBAC (www.cbac.co.uk), gwefan ddiogel CBAC (https://www.wjecservices.co.uk/welsh/default.asp), gwefan Penodedigion (https://appointees.wjec.co.uk/), gwefan Eduqas (www.eduqas.co.uk) neu unrhyw wefannau eraill y mae WJEC CBAC Cyf. yn berchen arnynt.

Mae chi/eich yn cyfeirio at yr ymwelydd sy'n defnyddio'r wefan.

Mae cynnwys yn cyfeirio at ddogfennau, logos, testun, delweddau, adnoddau, cynnyrch, seiniau, cod, data neu unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyhoeddir ar y wefan.

 

3. Manwl gywirdeb gwybodaeth ac ymwadiad atebolrwydd

3.1 Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y cynnwys a gyhoeddir ar y gwefannau'n gywir, fodd bynnag oherwydd cyflymder newid o fewn y sector addysg, ni allwn sicrhau fod y wybodaeth wedi'i diweddaru bob amser. Nid yw CBAC yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw wall neu hepgoriad yng nghynnwys y wefan.

3.2 Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gynnwys gwefannau trydydd parti allanol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gwefannau sydd â chysylltiadau atynt o'n gwefannau ni. Cyfrifoldeb yr ymwelydd yw mynd ar wefannau trydydd parti drwy'r cysylltiadau ar ein gwefan(nau) ni. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw amheuon o ganlyniad i wefannau trydydd parti sy'n gysylltiedig â CBAC. Er bod cysylltiadau at wefannau trydydd parti o'n gwefannau, nid ydym yn cymeradwyo'r gwefannau hyn.

3.3 Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled busnes, niwed i enw da nac amhariad ar weithrediadau busnes neu ddata, nac am unrhyw fath o effaith negyddol o ganlyniad i ddefnyddio'r wefan.

3.4 Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gadw gwefannau ar-lein ac yn gweithio i'r lefel orau posibl, nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd os nad yw'r wefan ar gael dros dro oherwydd problemau technegol.

 

4. Cod Ymddygiad

Drwy ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno:

4.1 peidio â defnyddio'r wefan i ymyrryd â neu amharu'n faleisus â'r wefan ar gyfer ymwelwyr eraill

4.2 peidio â newid, diwygio neu ddileu cynnwys sydd ar gael ar y wefan

4.3 peidio ag anfon sbam neu e-byst yn ddigymell at y cyfeiriadau e-bost a restrir ar y wefan

4.4 cymryd camau addas i amddiffyn dyfais/dyfeisiau a ddefnyddir i gyrchu ein gwefan rhag firysau, mwydod a cheffylau pren Troea

 

5. Indemniad

Rydych yn cytuno i warchod y cwmni drwy indemniad rhag ac/neu yn erbyn unrhyw hawliadau, costau neu atebolrwydd o ganlyniad i'ch defnydd o'r wefan neu'ch ymddygiad wrth ei defnyddio.

 

6. Hawlfraint ac eiddo deallusol

6.1 Mae WJEC, CBAC, WJEC CBAC, WJEC/CBAC, CBAC/WJEC ac Eduqas yn enwau masnachu WJEC CBAC Cyf yn y Deyrnas Unedig.

6.2 Mae'r holl ddeunydd ar y wefan yn hawlfraint i'r cwmni.

6.3 Caniateir i ymwelwyr gyrchu, argraffu a llwytho'r cynnwys i lawr ar gyfer defnydd personol, anfasnachol ac ystafell ddosbarth yn unig.

6.4 Gwaherddir ymwelwyr rhag cael gwared ar unrhyw arwyddion hawlfraint sy'n gynwysedig yn y cynnwys sydd ar gael ar y wefan. Gwaherddir ymwelwyr rhag addasu cynnwys ar y gwefannau, ailgynhyrchu neu ddyrannu cynnwys ar unrhyw wefan y mae'r cwmni'n berchen arni, heb ganiatâd ysgrifenedig gan aelod o staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y cwmni.

6.5 Gwaherddir ymwelwyr rhag creu cronfa ddata o gynnwys â hawlfraint arno drwy lawrlwytho a storio symiau mawr o gynnwys, oni bai ei fod ar gyfer defnydd personol, anfasnachol ac ystafell ddosbarth yn unig.

6.6 Mae logos y mae'r cwmni'n berchen arnynt yn nodau masnach cofrestredig ac mae'n rhaid cadw at ganllawiau defnyddio'r logos. Mae'n rhaid derbyn cytundeb ysgrifenedig yr aelod o staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y cwmni cyn y caniateir defnyddio'r logos. Unwaith y derbynnir caniatâd ysgrifenedig, bydd adran Farchnata'r cwmni yn rhoi fersiynau electronig wedi'u cymeradwyo o'r logo(s) angenrheidiol i chi. Atgoffir canolfannau bod angen i'r defnydd o logos sefydliadau dyfarnu fod yn unol â Rheoliadau Cyffredinol CGC ar gyfer Canolfannau Cymeradwyedig.

6.7 Nid yw'r defnydd o unrhyw nodau masnachu trydydd parti ar ein gwefannau yn awgrymu bod CBAC yn cymeradwyo'r endid trydydd parti.

 

7. Gwarchod data

7.1 Drwy gofrestru â CBAC, rydych yn cydsynio i CBAC brosesu eich data personol yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998. Gellir canfod manylion pellach yn ein Polisi Preifatrwydd.

7.2 Rydych yn gwarantu bod y wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu yn gywir ac rydych yn gyfrifol am roi gwybod i'r cwmni os oes unrhyw newid i'r wybodaeth bersonol yr ydych wedi'i darparu o'r blaen.

7.3 Rydych yn gyfrifol am gadw eich manylion mewngofnodi ar gyfer y wefan ddiogel yn gyfrinachol. Os ydych chi'n credu bod eich manylion mewngofnodi wedi cael eu peryglu, rhowch wybod i'ch Swyddog Arholiadau cyn gynted â phosibl. Ni ddylech rannu na ddatgelu eich manylion i unrhyw berson arall.

 

8. Cyrsiau a digwyddiadau DPP

Mae telerau ac amodau ar gyfer cadw eich lle ar gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gael yma.

 

9. Terfynu

Rydym yn cadw'r hawl i atal neu derfynu eich gallu i gyrchu'r wefan heb roi gwybod i chi os ydych chi'n torri'r telerau ac amodau hyn.

 

10. Awdurdodaeth

Drwy ymweld â'r gwefannau, rydych yn cytuno bod y telerau a'r amodau hyn yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â Chyfraith Loegr. Mae bob parti wedi cytuno'n ddiwrthdro i gadw at awdurdodaeth anghyfyngol y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

(Diweddarwyd diwethaf: Hydref 2015)