Arholi gyda ni

Mae CBAC wedi ymrwymo i sicrhau bod sgript pob ymgeisydd yn cael ei marcio a'i hasesu'n deg ac yn fanwl gywir. Mae Arholwyr a Chymedrolwyr yn hanfodol ar gyfer cyflwyno ein cymwysterau ac rydym yn cyflogi miloedd o athrawon, athrawon wedi ymddeol, darlithwyr addysg bellach ac arbenigwyr addysg i sicrhau bod safon uchel ein marcio yn cael ei chynnal. 

 

Rydym yn uwchraddio ein Porth Rheoli Penodedigion (AMP), ac o 23 Medi ymlaen bydd ffordd newydd o fewngofnodi i'r system penodedigion.  Bydd angen i bob defnyddiwr ddilyn y cyfarwyddiadau cam wrth gam i fudo ei gyfrif. Dyma gychwyn ar daith gyffrous i adnewyddu'r system penodedigion. Edrychwch ar ein canllaw am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â ni
local_phone 029 2026 5457