- - Uwchlwytho e-gyflwyno

E-Gyflwyno yw'r broses o gyflwyno gwaith ymgeiswyr ar ffurf electronig i'w gymedroli neu ei asesu. Rydym yn defnyddio IAMIS (ein System Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol) ar gyfer uwchlwytho gwaith a asesir yn fewnol a Surpass ar gyfer uwchlwytho gwaith a asesir yn allanol.
Bydd angen i bersonél y ganolfan sy'n gyfrifol am gyflwyno marciau NEA yn electronig gael mynediad i IAMIS, sydd bellach trwy'r mewngofnodi newydd i'r Porth. (Pob gwasanaeth > Arholiadau ac Asesu > Asesiad Mewnol/Canlyniadau Marciau).
I gael gwybod pa system y mae eich pwnc yn ei defnyddio, cyfeiriwch at eich tudalen pwnc neu'r canllawiau pwnc isod.
> E-Gyflwyno (uwchlwytho ar IAMIS) – Canllaw Pynciau - ar gyfer gwaith a asesir yn fewnol
> Y Broses E-Gyflwyno (Surpass) - Canllaw Pynciau - ar gyfer gwaith a asesir yn allanol
- Uwchlwytho IAMIS
- Surpass
Ewch i'r sgrin lle gallwch chi fewnbynnu canlyniadau ymgeiswyr ar gyfer pob uned/cydran a gofrestrwyd (Porth > Pob Gwasanaeth > Arholiadau ac Asesiadau > Asesiadau Mewnol/Canlyniadau Marciau).
Ar y sgrin fewnbynnu, lle mae marciau ymgeiswyr wedi'u mewnbynnu a'r samplau wedi'u creu, ewch i'r golofn ar ochr bellaf y sgrin ar y dde dan y teitl 'uwchlwytho' a bydd yr eicon cwmwl yn ymddangos. Rhaid i ganolfannau glicio ar y botwm ac uwchlwytho'r gwaith ar gyfer pob ymgeisydd yn y sampl.
Er mwyn sicrhau y gellir uwchlwytho gwaith ymgeiswyr yn llwyddiannus, dylai canolfannau sicrhau fod y ffeiliau wedi'u paratoi yn gywir (fel y nodir yn y ddogfen Canllaw Uwchlwytho IAMIS, cliciwch ar y pwnc dynodedig ar y dudalen gynnwys) cyn uwchlwytho:
Gall pob pwnc fod â gofynion pwnc-benodol sy'n cynnwys:
- Mathau o ffeiliau sy’n cael eu derbyn
- Nifer y ffeiliau sy'n cael eu derbyn
- Uchafswm maint y ffeiliau i'w huwchlwytho
Rhaid i chi drefnu'r ffeiliau ar eich dyfais eich hun yn seiliedig ar y canllawiau a roddwyd. Yna rhowch yr holl ffeiliau mewn ffolderi gan osod ffolderi'r ymgeiswyr unigol mewn ffolderi zip – gwiriwch faint y ffeil ar ôl gwneud hynny (uchafswm 1GB)
Ni ddylai canolfannau fod yn uwchlwytho gormod o ffeiliau ar y cam uwchlwytho. Mae gormod o ffeiliau yn effeithio'n uniongyrchol ar sgriniau a lawrlwythiadau'r cymedrolwyr. Os yw CBAC yn penderfynu fod y sgrin yn anhylaw i gymedrolwyr, bydd gofyn i chi ddileu ffeiliau a'u huwchlwytho eto yn gywir, gan ddilyn y canllawiau a rannwyd.
Mae dwy ffordd o uwchlwytho ffeiliau ar IAMIS.
Mae'r rhan fwyaf o bynciau yn gofyn bod ffeiliau ymgeiswyr unigol yn cael eu huwchlwytho i'r system. Byddwch chi'n ymwybodol os yw pwnc yn gofyn am uwchlwytho fesul unigolyn gan fod y botwm uwchlwytho i'w weld ar sgriniau mewnbynnu gyferbyn â phob ymgeisydd.
Mae rhai pynciau'n gofyn am uwchlwytho fesul Gweinyddwr neu Grŵp. Dyma nodwedd newydd ar gyfer IAMIS o 2025 ymlaen. Byddwch chi'n ymwybodol os yw pwnc yn gofyn am uwchlwytho fesul Grŵp / Gweinyddwr gan fod y botwm i'w weld ar y dde tua brig y sgrin fewnbynnu gyferbyn â 'dewisiadau'.
Dylech chi gyfeirio at ganllawiau'r pwnc cyn uwchlwytho Canllaw Uwchlwytho IAMIS.
Ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau, mae'r canllawiau'n nodi y derbynnir un ffeil zip am bob ymgeisydd / Gweinyddwr. Lle mae ffeiliau'n cael eu cadw ar ddyfais y ganolfan, dylid eu rhoi mewn ffolderi zip (lle y bo'n ofynnol), a'u huwchlwytho.
Ni ddylai canolfannau fod yn uwchlwytho gormod o ffeiliau ar y cam uwchlwytho. Mae gormod o ffeiliau yn effeithio'n uniongyrchol ar sgriniau a lawrlwythiadau'r cymedrolwyr. Os yw CBAC yn penderfynu fod y sgrin yn anhylaw i gymedrolwyr, bydd gofyn i chi ddileu ffeiliau a'u huwchlwytho eto yn gywir, gan ddilyn y canllawiau a rannwyd.
Dylai canolfannau gynllunio gwaith ymlaen llaw a'u cadw'n electronig lle bo hynny'n bosibl. Os oes gwaith copi caled wedi'i wneud yna dylid neilltuo amser i sganio'r holl waith copi caled cyn mewnbynnu a chyflwyno canlyniadau ar IAMIS. Ni ddylai canolfannau aros i samplau gael eu creu ac yna sganio'r gwaith. Dylai'r holl waith fod ar gael yn barod i'w uwchlwytho os bydd cais am samplau ychwanegol yn cael ei wneud.
Rhaid i ganolfannau sicrhau wrth sganio tystiolaeth fod pob tudalen o waith, taflenni dilysu ymgeiswyr a/neu daflenni clawr yn cael eu sganio mewn trefn gronolegol ac nad ydynt yn cael eu sganio wyneb i waered.
Er y gall uwchlwytho dros IAMIS dderbyn y rhan fwyaf o fathau o ffeil, gall canllawiau o bwnc i bwnc fod yn wahanol oherwydd y math o dystiolaeth a gwaith sydd ei angen ar gyfer cymedroli.
Rhaid i ganolfannau gyfeirio at y ddogfen Canllaw Uwchlwytho IAMIS (cliciwch ar y pwnc dynodedig ar y dudalen gynnwys) am y wybodaeth o ran y mathau o ffeiliau a ddisgwylir fesul pwnc.
Oes, uchafswm maint y ffeil yw 1GB. Bydd ffeiliau mawr yn cymryd amser i uwchlwytho. Uwchlwythwch un ffeil ar y tro a pheidiwch â symud i ffwrdd o'r dudalen hon tan y byddwch chi'n gallu gweld enw'r ffeil ar y sgrin. Rydym yn argymell y dylai'r ffeiliau sy'n cael eu huwchlwytho fod yn llai na 600MB mewn maint.
Gall canolfannau gyfeirio at y ddogfen Canllaw Uwchlwytho IAMIS (cliciwch ar y pwnc dynodedig ar y dudalen gynnwys) am unrhyw ganllawiau penodol o ran confensiynau enwi fesul pwnc.
Rhaid i’r ganolfan sicrhau bod ffeiliau’n cael eu cadw gyda fformat enwi sy’n nodi’n glir rhif y ganolfan, rhif/enw’r ymgeisydd.
Noder, peidiwch â defnyddio unrhyw ‘nodau arbennig’ wrth gadw gwaith.
Agorwch y ffeil, Dewisiadau Cadw a chadwch fel ffeil newydd gydag enw gwahanol a'i huwchlwytho
neu
Rhowch y ffeil mewn ffolder zip a'i huwchlwytho
neu
Copïwch y ffeil i leoliad arall (bwrdd gwaith, er enghraifft) a cheisiwch uwchlwytho o'r fan honno.
Dylai hyn ailysgrifennu priodoleddau'r ffeil yn rhywbeth sy'n gytûn ac yn caniatáu uwchlwytho.
Os yw'r ffeil rydych chi'n ceisio ei llwytho i fyny mewn ffolder arall, gall hyn weithiau olygu bod enw'r ffeil yn rhy hir gan ei fod hefyd yn cynnwys llwybr cyrchfan y ffeil. Bydd hyn wedyn yn atal uwchlwytho.
Noder: Gwnewch yn siŵr bod ffeiliau'n cael eu huwchlwytho gyda math ddilys o ffeil, fel y nodir yn y ddogfennaeth canllaw pynciau - uwchlwytho ar IAMIS.
Yn hytrach na chyflwyno ffeiliau delweddau unigol, ychwanegwch ddelweddau at ddogfen Word, ac yna defnyddiwch Word i gywasgu'r delweddau.
Bydd ffeiliau mawr yn cymryd amser i uwchlwytho. Uwchlwythwch un ffeil ar y tro a pheidiwch â symud i ffwrdd o'r dudalen hon tan y byddwch chi'n gallu gweld enw'r ffeil ar y sgrin. Rydym yn argymell y dylai'r ffeiliau sy'n cael eu huwchlwytho fod yn llai na 600MB mewn maint.
Gall y ffeiliau hyn gymryd mwy o amser i'w huwchlwytho fesul ymgeisydd yn dibynnu ar faint y ffeil – gwnewch yn siŵr bod y bar cynnydd yn llwytho ac arhoswch nes ei fod yn cyrraedd 100% cyn llywio i ffwrdd o'r sgrin.
Bydd ffeiliau mawr yn cymryd amser i uwchlwytho. Uwchlwythwch un ffeil ar y tro a pheidiwch â symud i ffwrdd o'r dudalen hon tan y byddwch chi'n gallu gweld enw'r ffeil ar y sgrin. Rydym yn argymell y dylai'r ffeiliau sy'n cael eu huwchlwytho fod yn llai na 600MB mewn maint.
D.S. Os ydych yn newid maint ffeiliau fideo ac yn eu cywasgu fel y gellir eu huwchlwytho’n gyflymach, cofiwch mai at ddibenion cymedroli yn unig fydd tystiolaeth fideo, felly mae ansawdd is na’r gwreiddiol yn dderbyniol.
Gall canolfannau ddileu ffeiliau eu hunain ar ôl cyflwyno marciau ac uwchlwytho samplau hyd at y dyddiad cau cyflwyno.
Ar ochr dde bellaf ffeil sydd wedi'i huwchlwytho mae X y gall y ganolfan glicio arno i gael gwared ar y ffeil.
Unwaith y bydd y terfyn amser ar gyfer cyflwyno canlyniadau a samplau wedi mynd heibio, ni fydd canolfannau'n gallu dileu ffeiliau sydd wedi'u huwchlwytho yn anghywir.
Os oes gennych garfan gyfan o ffeiliau canolfannau wedi'u huwchlwytho'n anghywir (h.y. ffeiliau sydd wedi'u huwchlwytho yn erbyn y pwnc neu'r uned anghywir ar gyfer pob ymgeisydd) anfonwch e-bost at y tîm Cyfresi Arholiadau i wneud cais i ddileu ffeiliau. Mae'n rhaid i'r cais nodi'r canlynol yn glir:
- Rhif y Ganolfan
- Rhif/cod uned/cymhwyster
- Rhestru enwau pob ffeil sydd angen ei dileu
Os gan y ganolfan nifer bach o ffeiliau sydd wedi'u huwchlwytho'n anghywir ni ellir dileu'r rhain. Yn hytrach, rhaid i Canolfannau barhau i sgrin IAMIS ac uwchlwytho ffeil ychwanegol i'r ymgeisydd hwnnw ac enwi'r ffeil yn glir fel (FERSIWN NEWYDD/CYWIR).
Bydd y botwm uwchlwytho wedi diflannu os yw'r dyddiad cau cyflwyno wedi mynd heibio ac 8 wythnos wedi mynd heibio ers y dyddiad cyflwyno.
Mae angen i CBAC ail-weithredoli'r botwm uwchlwytho. E-bostiwch dîm cyflwyno'r gyfres berthnasol i ofyn i gael dileu ffeil. Mae'n rhaid i'r cais nodi'r canlynol yn glir:
- Rhif y Ganolfan
- Rhif/cod uned/cymhwyster
Dylai'r cymedrolwr fod wedi nodi'r ail sampl yn glir ar sgriniau IAMIS, felly, pan fydd canolfannau yn llywio'n ôl i sgrin yr uned/cydran dylen nhw weld unrhyw ymgeiswyr eraill wedi’u nodi â blwch ticio o dan y golofn 'samplau'.
Os nad yw cymedrolwr wedi nodi'r ail sampl ar y sgrin IAMIS eto, bydd y sgrin mewnbynnu yn llywio'n awtomatig i'r gwedd 'samplau' yn unig, sy'n dangos y sampl gwreiddiol.
Rhaid i ganolfannau gysylltu â thîm pwnc CBAC er mwyn iddynt atgoffa'r cymedrolwr i ddewis samplau ychwanegol ar y system.
Canllawiau hanfodol ynghylch y broses e-Gyflwyno (uwchlwytho ar IAMIS) a'r gofynion pwnc
> E-Gyflwyno (uwchlwytho ar IAMIS) – Canllaw Pynciau - ar gyfer gwaith a asesir yn fewnol
> Canllaw Cam wrth Gam i'r System Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol (Llwybrau)
> Canllaw Cam wrth Gam i'r System Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol
> Asesiad Mewnol: Canllaw i Ganolfannau
I gael arweiniad cyffredinol ar y broses uwchlwytho, defnyddiwch ein hofferyn Cwestiynau Cyffredin ar waelod ochr dde'r sgrin. Os oes angen cymorth arnoch o hyd gallwch gysylltu â'r tîm drwy:
e-bost: e-submission@cbac.co.uk
Ffôn: 02922 404 310