- - Hysbysfwrdd Swyddogion Arholiadau

Mae'r wybodaeth isod yn nodi rhai o'r dyddiadau, dyddiadau cau a nodiadau atgoffa pwysig ar gyfer Swyddogion Arholiadau y mis hwn. Mae'r dogfennau Dyddiadau Allweddol llawn ar gyfer gwahanol lefelau cymhwyster i'w cael yma.
Asesiad Mewnol Cyfres Mehefin 2025
Ar gyfer sawl cymhwyster, aeth ein System Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol (IAMIS) yn fyw ar y Porth o 10 Mawrth 2025, gyda chymwysterau eraill yn dilyn ar 1 Ebrill 2025, gan ganiatáu i ganolfannau gyflwyno eu marciau ar gyfer unedau/cydrannau a asesir yn fewnol. Mae'n bosibl cael mynediad at IAMIS ar y Porth drwy'r ddewislen 'Pob Gwasanaeth' gan glicio ar 'Arholiadau ac Asesiadau', ac yna 'Marciau a Chanlyniadau Asesu Mewnol'.
Mae ein canllaw llawn ar gyfer y broses Asesu Mewnol, yn ogystal â chanllawiau cam wrth gam i ddefnyddio IAMIS, a dogfennaeth terfynau amser i'w gweld ar ein tudalen Asesu Mewnol.
Gellir dod o hyd i'r canllawiau ar gyfer cyflwyno gwaith sampl yn electronig (lle bo angen) ar ein tudalen uwchlwytho e-gyflwyno.
Gofynion Arholiadau Mehefin 2025
Mae ein dogfen Gofynion Arholiadau Mehefin 2025 ar gael ym mis Ebrill. Mae'r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth sy'n cynnwys pa ddeunyddiau ac adnoddau sydd eu hangen ar gyfer pob arholiad ar yr amserlen yng nghyfres Mehefin. Gallwch ddod o hyd iddi dan Dogfennau Allweddol ar ein tudalen Arholiadau.
Dosbarthu ar gyfer Arholiadau Mehefin 2025
Bydd ein tîm Dosbarthu yn dechrau darparu papurau cwestiynau cyfres Mehefin i ganolfannau ym mis Ebrill, gyda'r broses honno i barhau ym misoedd Mai a Mehefin. Anfonir cofrestri a labeli arholwyr ar wahân.
Cofiwch fod rhaid storio deunyddiau cyfrinachol (gan gynnwys llyfrau ateb) yn ddiogel bob amser, yn unol â gofynion y CGC.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau ynglŷn â'r danfoniadau hyn, yna gallwch gysylltu â'n tîm Dosbarthu drwy anfon e-bost at ymholiadaudosbarthu@cbac.co.uk
Terfynau Amser Cyfres Ionawr 2025
Yn ystod mis Ebrill y mae'r terfynau amser i ganolfannau gyflwyno ceisiadau am y canlynol mewn perthynas â chyfres Ionawr 2025:
-
10 Ebrill 2025 – Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau, yn cynnwys gwiriadau clercol ac adolygu marcio
-
10 Ebrill 2025 – ystyriaeth arbennig 'ôl-weithredol’
-
13 Ebrill 2025 – Cyfnewid ar gyfer cyfres Ionawr 2025
Gellir cyflwyno ceisiadau am bob un o'r uchod drwy fynd i'r mannau perthnasol ar y Porth.
Bagloriaeth Cymru – Mehefin 2025
30 Ebrill 2025 yw terfyn amser cyflwyno Ffurflen AOI1 Bagloriaeth Cymru mewn perthynas ag ymgeiswyr Cenedlaethol/Sylfaen ac ymgeiswyr Safon Uwch sy'n ailsefyll. Mae'r ffurflen hon i'w chael ar ein tudalen Bagloriaeth Cymru a dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi i wbq@cbac.co.uk