Efallai y bydd gan rai ymgeiswyr arholiadau hawl i drefniadau penodol, i'w cefnogi wrth sefyll arholiadau. Mae dewis eang o drefniadau ar gael – e.e. darpariaeth darllenydd, ysgrifennydd, amser ychwanegol ac ati.
Dylid prosesu pob cais am drefniadau mynediad ac addasiadau rhesymol gan ddefnyddio'r system ar-lein Trefniadau Mynediad Ar-lein (AAO) a ddefnyddir gan holl gyrff dyfarnu'r CGC. Mae'n bosibl mynd i'r AAO o Borth Gweinyddu Canolfannau'r CGC (CAP) drwy wefan ddiogel CBAC.
Dylai'r rhan fwyaf o geisiadau a gyflwynir gael eu cymeradwyo'n awtomatig ar AAO. Mewn achosion lle nad yw'r cais wedi'i gymeradwyo, bydd AAO yn caniatáu i'r Swyddog Cyfrifol atgyfeirio'r cais at y cyrff dyfarnu perthnasol i'w dyfarnu ar wahân.
Mae'r Dyddiadau Allweddol ar gyfer Trefniadau Mynediad ar wefan y CGC.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch trefniadau mynediad, e-bostiwch specialrequirements@wjec.co.uk.
Efallai fod gan ymgeiswyr y mae amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth (afiechyd, profedigaeth ac ati) yn effeithio ar eu perfformiad mewn arholiad, yr hawl i gael Ystyriaeth Arbennig. Mae'r gweithdrefnau hyn yn gyffredinol i'r holl Gyrff Dyfarnu Cymwysterau Cyffredin.
Gellir rhoi ystyriaeth arbennig i ymgeiswyr cymwys sydd:
- yn bresennol ar gyfer asesiad/arholiad ond sydd dan anfantais, oherwydd amgylchiadau nad oes modd eu rhagweld.
- yn absennol o asesiad ar yr amserlen oherwydd afiechyd neu reswm derbyniol arall – ar gyfer manylebau unedol mae hyn yn berthnasol i'r gyfres derfynol (ymgeiswyr cyfnewid) yn unig.
Mae gwybodaeth bellach ar wefan CBAC.
Rhaid i ganolfannau gyflwyno ceisiadau ar gyfer asesiadau ar yr amserlen gan ymgeiswyr unigol a cheisiadau grŵp gan ddefnyddio 'Ystyriaeth Arbennig' ar-lein, sydd ar gael drwy wefan ddiogel CBAC.
- Dylid defnyddio ffurflen JCQ/SC 10 ar gyfer asesiadau di-arholiad/dan reolaeth (nad ydynt ar yr amserlen).
- Dylid cyflwyno ffurflen JCQ/LCW 15 ar gyfer gwaith coll a aseswyd gan y ganolfan. Dylid cyflwyno tystiolaeth feddygol ychwanegol, lle y bo'n briodol.
Mae ein dogfen Methodolegau ystyriaeth arbennig ar gyfer rhagamcanu cymwysterau llinol ac unedig sy'n seiliedig ar farciau' yn amlinellu'r dulliau a ddefnyddir gan CBAC i ragweld marciau os yw ymgeisydd yn absennol o asesiad am reswm da.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach sy'n ymwneud ag ystyriaeth arbennig, e-bostiwch specialrequirements@wjec.co.uk.
Gall canolfannau gyflwyno archeb ar gyfer papur wedi'i addasu, i helpu ymgeiswyr sydd ag anghenion ychwanegol penodol. Caiff papurau wedi'u haddasu eu paratoi'n unigol i ymgeiswyr y mae trefniadau mynediad eraill yn anaddas iddyn nhw.
Rhaid cyflwyno archebion gan ddefnyddio'r adnodd ar-lein Trefniadau Mynediad Ar-lein y CGC, y mae modd ei ddefnyddio ar Borth Gweinyddu'r Canolfannau y CGC (CAP) drwy wefan ddiogel CBAC. Mae'r cyfleuster hwn ar gael i ddeiliad prif gyfrif y ganolfan yn unig (y Swyddog Arholiadau, fel arfer).
Mae CBAC yn anelu at ddosbarthu papurau wedi'u haddasu oddeutu 7-10 diwrnod cyn dyddiad swyddogol yr arholiad.
Mae'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno archebion am bapurau wedi'u haddasu i'w gweld yn y llyfryn Trefniadau Mynediad ac Addasiadau Rhesymol. Os byddwch chi'n methu'r dyddiad cau bydd AAO yn dal i dderbyn archebion ar gyfer papurau wedi'u haddasu, ond mae'n hanfodol bod canolfan yn gwneud cais am bapur cyn gynted â phosibl ar ôl cael gwybod bod y dyddiad cau wedi'i fethu. Efallai na fydd yn bosibl cyflenwi archebion hwyr oherwydd eu bod mor agos at arholiad ar yr amserlen.
Trefniadau eraill
Gall canolfannau agor pecyn papurau cwestiynau o fewn 60 munud i amser cychwyn yr arholiad er mwyn ei lungopïo ar bapur lliw neu ei wneud yn fwy os bydd angen hynny ar yr ymgeisydd.
Noder y gwaherddir ail-deipio papur cwestiynau neu ei addasu mewn unrhyw ffordd arall, a gall fod yn gyfystyr â chamymddwyn.
Mae cymorth ynghylch llwytho papurau cwestiynau electronig i lawr ar gael o'r adran berthnasol:
TGAU: 029 2026 5082
UG/Safon Uwch: 029 2026 5336
Galwedigaethol, Cymhwysol a Lefel Mynediad:029 2026 5444
Rhaid i bapurau cwestiynau gael eu trin yn unol â dogfen Cyfarwyddiadau ar Gynnal Arholiadau y CGC bob amser.
Os oes unrhyw ymholiadau eraill gennych ynghylch papurau wedi'u haddasu, cysylltwch â papurauwediuhaddasu@cbac.co.uk.
Edrychwch ar y ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon i gael gwybodaeth ddefnyddiol bellach.
Mae Porth Gweinyddu Canolfannau'r CGC (CAP) yn galluogi canolfannau i wneud cais am Drefniadau Mynediad ac i archebu Papurau wedi'u Haddasu ar-lein.
Gallwch gael mynediad at y porth o wefan ddiogel CBAC, drwy ddewis 'Porth Gweinyddu Canolfannau CGC' o'r ddewislen.