- - Cofrestriadau

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am godau cofrestru, cyflwyno cofrestriadau rhagarweiniol a therfynol, data sylfaenol, ffioedd ac unrhyw wybodaeth arall am gofrestru.
Rhaid cofrestru fel canolfan â CBAC er mwyn gallu cofrestru ymgeiswyr. Gallwch weld gwybodaeth bellach am gofrestru fel canolfan gyda CBAC yma.
- Cofrestriadau Terfynol
- Cofrestriadau Rhagarweiniol
- Data sylfaenol
- Dynodwyr Ymgeiswyr Unigryw
- Ffioedd
Cofrestriadau terfynol
Gellir gwneud cofrestriadau terfynol naill ai drwy Cyfnewid Data Electronig (EDI) neu drwy Porth CBAC.
Mae manylion llawn ynghylch y prosesau hyn, yn cynnwys y terfynau amser perthnasol, i'w cael yn ein llyfryn Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau.
Cofrestriadau hwyr yw'r cofrestriadau hynny sy'n cael eu gwneud ar ôl y terfyn amser diwygio cofrestriadau, a chofrestriadau hwyr iawn yw'r cofrestriadau hynny sy'n cael eu gwneud ar ôl y terfyn amser cofrestriadau hwyr. Mae ffioedd ychwanegol am unrhyw gofrestriadau a wnaed ar ôl i bob un o'r terfynau amser hyn fynd heibio.
Mae ein ffioedd cofrestru (yn cynnwys ffioedd hwyr a hwyr iawn) wedi'u cyhoeddi yn ein dogfennau ffioedd:
> Ffioedd Mynediad: 2022/23
> Ffioedd Mynediad: 2023/24
Mae gwybodaeth am ailsefyll cymwysterau ar gael yn ein Canllaw i Ofynion Ailsefyll.
Codau Cofrestru, Rhifau Cymeradwyo Cymwysterau (QANs) a darpariaeth cyfresi
Mae codau cofrestru, darpariaeth cyfresi a rhifau QAN i'w gweld yn ein llyfryn Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau.
Diwygiadau i Gofrestriadau a Thynnu'n ôl
Wrth ddiwygio cofrestriadau, rhaid i ganolfannau ddefnyddio'r un dull cofrestru a ddefnyddion nhw wrth gyflwyno eu cofrestriadau cychwynnol (naill ai drwy EDI neu'r wefan ddiogel).
Rhestrir pob terfyn amser cofrestru a diwygio yn y Llyfryn Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau. Rhestrir manylion y diwygiadau taladwy a'r ffioedd ar gyfer y rhain yn ein dogfen ffioedd uchod.
Pynciau dynodedig ar gyfer canolfannau yng Nghymru
Mae'r cymwysterau CBAC Eduqas canlynol wedi eu dynodi ar hyn o bryd gan Cymwysterau Cymru i'w defnyddio gan ganolfannau yng Nghymru:
- TGAU (9-1) Electroneg
- TGAU (9-1) Astudiaethau Ffilm
- TGAU (9-1) Daeareg
- TGAU (9-1) Lladin
- TGAU (9-1) Cymdeithaseg
- UG ac Uwch Electroneg
- UG a Safon Uwch Astudiaethau Ffilm
- UG a Safon Uwch Daeareg
Mae gwybodaeth bellach am gofrestru ar gyfer cymwysterau dynodedig a gwneud cais am bapurau cwestiynau cyfrwng Cymraeg ar gael yma.
Mae gwybodaeth am ddiwygio cymwysterau yng Nghymru ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru.
Dogfennau Allweddol