Mynediad rhad ac am ddim i sgriptiau wedi'u marcio

Er mwyn cefnogi'ch addysgu a datblygu eich dealltwriaeth o asesiadau, mae athrawon CBAC yn elwa ar fynediad at sgriptiau arholiad wedi'u marcio rhad ac am ddim o gyfres asesu Haf 2024.

 

Bydd pob sgript ar gael fel PDF ac yn cynnwys y marciau ac unrhyw sylwadau a wneir gan ein harholwyr hyfforddedig i'ch helpu i adolygu perfformiad eich dysgwyr. Gall y rhain hefyd fod yn gymhorthion ystafell ddosbarth defnyddiol, i ddangos cryfderau dysgwyr presennol a chamgymeriadau cyffredin y dylent eu hystyried mewn asesiadau yn y dyfodol.

 

Bydd sgriptiau eich dysgwyr ar gael i'w lawrlwytho o Porth o ddiwrnod y canlyniadau ymlaen. dyfodol.

 

Cofiwch fod yn rhaid i chi gael cydsyniad ysgrifenedig yr ymgeisydd cyn cael mynediad at ei sgript(iau). Mae hyn yn cynnwys cael mynediad at sgriptiau i ategu adolygiadau o'r marcio ac/neu i ategu addysgu a dysgu.Mae manylion llawn yr amodau'n ymwneud â chael mynediad at sgriptiau i'w cael yn llyfryn Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau y CGC.