Sut i ymgeisio
Rydym yn derbyn ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Dylai ymgeiswyr roi sylw i'r meini prawf hynod ddymunol a chynnig enghreifftiau clir sy'n dangos eu gallu i fodloni'r meini prawf hynny.
Mae'n ofynnol i'r sawl sy'n gwneud cais lenwi'r ffurflen gais ganlynol:
> Ffurflen Gais (PDF)
> Ffurflen Gais (Word)
Hefyd, dylid llenwi a chyflwyno'r ffurflen ganlynol gyda'ch ffurflen gais:
> Ffurflen Cydraddoldeb a Monitro
Dylid anfon ffurflenni wedi’u llenwi ar e-bost at ad@cbac.co.uk neu eu postio i’r Uned Adnoddau Dynol, CBAC, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX erbyn y dyddiad a bennwyd ar y disgrifiad swydd.
> Hysbysiad Preifatrwydd i Ymgeiswyr am Swyddi
Yn ogystal â'r swyddi gwag presennol rydym yn eu hysbysebu ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio 90+ o bobl i ymuno â ni fel cynorthwywyr dros dro. Mae'r rolau ar gael o fis Mawrth i fis Gorffennaf 2025 (dyddiadau dechrau/gorffen amrywiol).
Mae'r rhain yn rolau lefel mynediad gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r sector addysg neu sy'n chwilio am brofiad gweinyddol i wella eu CV. Yn wir, mae sawl un sy’n gweithio yma’n barhaol wedi ymuno â drwy'r cynllun hwn yn y gorffennol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rhan bwysig yn ein cyfres Arholiadau Haf 2025. Nid yw profiad blaenorol yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn ar gael, ond mae profiad gweinyddol neu gofnodi data yn fuddiol.
Darllenwch y disgrifiadau swydd isod i gael gwybod mwy:
Sut i ymgeisio
- Llenwch y ffurflen gais ar-lein uchod
- Anfonwch gopi o'ch CV i AD@cbac.co.uk.
Byddwn ni wedyn yn cysylltu â chi pan fydd ein swyddi gwag ar gael.
> Hysbysiad Preifatrwydd i Ymgeiswyr am Swyddi
Rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac adlewyrchir hynny yn ein 5 Gwerth Craidd:
Ymrwymiad i'r Cwsmer
Gyda dros 75 mlynedd o brofiad yn datblygu, cyflwyno ac asesu, rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau enw da am ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, ac rydym yn awyddus i barhau â'r traddodiad hwn.
|
Tegwch
Rydym yn sicrhau bod ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid yn cael eu gwerthfawrogi a'u trin yn gyfartal, a'u bod yn cael lleisio eu barn a'u parchu.
|
Arloesi
Rydym drwy'r amser yn edrych am ffyrdd o wella'r hyn a wnawn, yr hyn a gynigiwn a sut y gallwn ychwanegu gwerth.
|
Gweithio mewn Tîm
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd tîm cryf sy'n cefnogi ein gweithwyr, sydd yn ei dro yn helpu i gynnal cynhyrchiant a chymhelliant.
|
Gwerthfawrogi Pobl
Fel sefydliad, rydym yn hyrwyddo gonestrwydd, cydraddoldeb a thegwch er mwyn helpu gweithwyr i gyrraedd eu potensial llawn.
|
Rydym wedi ymrwymo i gynnig pecyn buddion cystadleuol, sy'n cynnwys:
Gwyliau Blynyddol
Mae ein gweithwyr yn cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol, 8 diwrnod gŵyl banc ac rydym yn cau rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
|
Dysgu a Datblygiad
Rydym yn cefnogi ein gweithwyr i fanteisio ar hyfforddiant a chyfleoedd datblygu perthnasol er mwyn cefnogi eu dyheadau gyrfa. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant mewnol a chyrsiau ffurfiol er mwyn i weithwyr ennill cymwysterau proffesiynol.
|
Pensiwn
Yn unol â rheoliadau Ymrestru Awtomatig, caiff cyflogeion eu hasesu ar ôl iddynt ddechrau gweithio, ac os bodlonir y meini prawf cymhwyso, maent yn cael eu hymrestru ar un o 2 gynllun pensiwn cymwys.
Y cynllun pensiwn rhagosodedig ar gyfer ein cyflogeion yw'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a bydd y rhan fwyaf o gyflogeion naill ai wedi'u hymrestru'n gytundebol neu'n awtomatig i'r cynllun hwn. Fodd bynnag, mae nifer o swyddi CBAC sydd wedi'u hymrestru'n gytundebol i'r cynllun Pensiwn Athrawon oherwydd y cyfrifoldebau sydd yn y rôl.
Mae'r ddau gynllun yn gynlluniau pensiwn galwedigaethol â budd-daliadau diffiniedig, treth gymeradwyedig, gyda buddion sy'n cronni dan y rheolau Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi'i Adbrisio (CARE).
|
Polisïau cyfeillgar i'r teulu
I gefnogi teuluoedd, rydym yn cynnig absenoldeb a thâl hael ar gyfer mamolaeth, tadolaeth, rhieni sy'n rhannu ac ar gyfer mabwysiadu.
|
Gweithio Hyblyg
Mae ein swyddfeydd ar agor rhwng 7am a 7pm, gan roi hyblygrwydd i'n gweithwyr gyflawni eu 36.5 awr yr wythnos mewn ffordd sy'n bodloni eu hanghenion. Hefyd, rydym yn deall pwysigrwydd cydbwysedd bywyd a gwaith a byddwn yn ystyried pob cais am weithio hyblyg.
|
Parcio am ddim
Rydym yn cynnig parcio ar y safle yn rhad ac am ddim yn Nhrefforest ac yn Rhodfa'r Gorllewin.
|
Mae ein tîm Adnoddau Digidol hefyd yn chwilio am awduron ac adolygwyr i gefnogi'r gwaith o greu pecyn newydd o adnoddau dysgu.
Am fwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan, cliciwch yma.