Ydych chi am ymuno â ni yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2024?
Pryd? 24 Hydref 2024
Ble? Stadiwm Dinas Caerdydd
Rydym yn falch iawn o fod yn arddangos yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru. Y thema eleni yw "Dyfodol Addysg Bellach yng Nghymru”.
Yn sôn am ein cyfraniad ni mae Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymwysterau Galwedigaethol): “Rydym yn ddiolchgar i ColegauCymru am gynnal y digwyddiad hwn, a fydd yn gyfle ardderchog i ni gryfhau ein partneriaeth â cholegau ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at gyfarfod y sawl sy'n mynychu wyneb yn wyneb, a rhoi cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol iddynt er mwyn cyflwyno ein pynciau yn hyderus."
Am y digwyddiad
Gydag agenda llawn dop, mae'r Gynhadledd yn dwyn ynghyd rhanddeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr y diwydiant o bob cwr o Gymru a thu hwnt i ddangos gwerth addysg bellach a rhannu syniadau mewn heriau.
Bydd y gynhadledd yn cynnig amser i fyfyrio a rhwydweithio. Dyma gyfle i edrych tuag at y dyfodol gyda'n gilydd, wrth i ni groesawu'r newidiadau trawsnewidiol sydd o'n blaenau yn y ffordd mae addysg ôl-16 yn cael ei llywodraethu a'i darparu yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ystyried yr hyn sydd ei angen ar Gymru gan golegau yn y dyfodol, a sut y gallwn fynd i'r afael â'r newidiadau o ran y sgiliau angenrheidiol a ddaw yn sgil tueddiadau byd-eang.
Cwrdd â'r tîm
Bydd ein tîm cyfeillgar yn arddangos yn y digwyddiad, ac ar gael i ateb eich holl gwestiynau ynghylch ein cymwysterau ac i arddangos ein hamrywiaeth diguro o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM. Felly, dewch i ddweud 'helo’!