Mae'r ceisiadau ar gyfer y 24ain Gwobrau Arloesedd bellach AR AGOR

Mae'r ceisiadau ar gyfer y 24ain Gwobrau Arloesedd bellach AR AGOR

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobrau Arloesedd 2024 ar agor. Mae’r Gwobrau Arloesedd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y goreuon o ran creadigrwydd a gwaith dylunio o blith y nifer mawr o fyfyrwyr dawnus sydd gennym yng Nghymru.

Mae'r ceisiadau ar agor i fyfyrwyr sy'n astudio ein cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg yng Nghymru, lle rydym yn dathlu ac yn gwobrwyo'r gwaith project mwyaf gwreiddiol.

Jason Cates, Swyddog Pwnc Dylunio a Thechnoleg: “Rydym yn awyddus i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled a chyflawniadau myfyrwyr ledled Cymru yn ein gwobrau nodedig. Bob blwyddyn, rydym yn edrych ymlaen at weld a dathlu'r gwaith mae myfyrwyr wedi'i greu, sy'n dangos y goreuon o ran creadigrwydd a thalent arloesol Cymru.”

Bydd gwaith yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael ei ddangos mewn arddangosfa yng Nghaerdydd a Bangor. Bydd yr arddangosfeydd ar agor i bob ysgol/coleg ledled Cymru, er mwyn iddynt gael eu hysbrydoli gan waith eu cyfoedion. Yn dilyn hyn bydd seremoni wobrwyo fawreddog yn cael ei chynnal, lle bydd yr enillwyr yn cael eu gwobrwyo.


Categorïau

Rydym yn gwobrwyo 6 chategori, sy'n cynnwys:

  • Enillydd cyffredinol
  • Safon Uwch
  • UG
  • TGAU
  • Creadigrwydd
  • Eiddo Deallusol
  • Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur / Gweithgynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD/CAM)

I weld enillwyr y gorffennol, ewch i'n tudalen gwobrau 2023.


Gwnewch gais heddiw

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais yma.

Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 9 Mehefin 2024.

Mae rhagor o fanylion i'w cael ar y dudalen we Gwobrau Arloesedd.