Mae CBAC yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod!

Mae CBAC yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod!

Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024.

Pryd? 27 Mai - 1 Mehefin 2024
Ble? Caeau Fferm Mathrafal, Maldwyn


Am y digwyddiad

Gŵyl ieuenctid deithiol flynyddol yw Eisteddfod yr Urdd – digwyddiad hollbwysig yng nghalendr Cymru! Daw pobl o bob oed a chefndir at ei gilydd yn rhan o'r ŵyl fywiog hon i ddathlu pob agwedd ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Mae'n gyfle i arddangos amrywiaeth o gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a pherfformiadau. Caiff miloedd o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eu denu i'r Eisteddfod bob blwyddyn.

Bydd yr ŵyl eleni yn cael ei chynnal ym Maldwyn (Fferm Mathrafal) - y tro cyntaf ers 1988!  Mae disgwyl i 90,000 o ymwelwyr ymgynnull yn y dref ar gyfer yr ŵyl a fydd yn para wythnos. 

Felly, ewch amdani! I ddysgu mwy ac i gadw eich lle, cliciwch yma.

Dyma oedd gan Jonathan Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand, i'w ddweud am ein rhan yn yr Eisteddfod:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi'r ŵyl gystadlu fawreddog hon eto eleni. Dyma gyfle gwych i ddathlu diwylliant ieuenctid, y gymuned addysg, a'r iaith Gymraeg. Edrychwn ymlaen at gyfarfod y sawl sy'n mynychu, a rhoi cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol iddynt er mwyn cyflwyno ein pynciau yn hyderus.”


Cwrdd â'r tîm

Bydd ein tîm cyfeillgar wrth law yn ein stondin arddangos (C8) i ateb eich holl gwestiynau ynghylch ein cymwysterau ac i arddangos ein hamrywiaeth diguro o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM.

Dim cwestiynau? Dim problem! Peidiwch ag oedi, dewch draw i ddweud 'helo' – gallwch roi eich traed i fyny ac ymlacio ar un o'n sachau eistedd cyfforddus a chymryd rhan mewn llu o gemau a chystadlaethau. Dewch i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig!


Pob Lwc!

Pob lwc i'r unigolion fydd yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod! Yn sicr, bydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn Eisteddfod i'w chofio!

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch X: @cbac_wjec / Facebook: CBAC / WJEC / Instagram: @cbacifyfyrwyr