Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau Haf 2024 heddiw

Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau Haf 2024 heddiw

Heddiw, bydd myfyrwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau ar gyfer y cymwysterau Safon Uwch, UG, Lefel 3, Bagloriaeth Cymru Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Uwch.

Canlyniadau Safon Uwch Cymru

  • Enillodd 97.4% o'r myfyrwyr yng Nghymru raddau A* - E
  • Enillodd 10.1% o fyfyrwyr radd A*

Canlyniadau UG Cymru

  • Enillodd 90.2% o fyfyrwyr raddau A-E
  • Enillodd 22.1% o fyfyrwyr yng Nghymru radd A

Tystysgrif Her Sgiliau Uwch / Bagloriaeth Cymru Uwch

  • Enillwyd y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gan 98.1% o fyfyrwyr
  • Cynyddodd nifer y myfyrwyr yn dilyn y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gan 1.5 pwynt canrannol o gymharu â 2023
  • Llwyddodd 79.6% o ymgeiswyr yn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch

Yn ei sylw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Llongyfarchiadau i fyfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau heddiw. Mae hyn wir yn dangos eu gwaith caled a'u dyfalbarhad drwy gydol eu hastudiaethau.

‘Ar ran CBAC, hoffwn ddiolch hefyd i'r holl athrawon, darlithwyr a thimau sy'n gweithio yn yr ysgolion a'r colegau ledled y wlad am eu holl gefnogaeth a phroffesiynoldeb unwaith eto eleni; mae eu hymrwymiad i'w myfyrwyr wedi bod heb ei ail ar hyd eu taith.

'Y canlyniadau hyn sy'n rhoi'r myfyrwyr ar ben ffordd o ran camau nesaf eu gyrfa. Gall hynny fod yn symud ymlaen i astudio ymhellach neu'n gychwyn ar yrfa o'u dewis. Hoffwn ddymuno'r gorau iddyn nhw beth bynnag maen nhw'n ei wneud."

Ewch i'n tudalen gwe Diwrnod y Canlyniadau heddiw

Er mwyn cefnogi myfyrwyr, athrawon a rhieni rydym wedi datblygu Tudalen Gwe Diwrnod y Canlyniadau bwrpasol. Ar y dudalen hon, fe welwch chi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi. Mae'n cynnwys manylion am Ffiniau Graddau, canllaw i'r broses apeliadau, a chysylltbwyntiau defnyddiol i gael cyngor ac arweiniad.

Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:

Jonathan Thomas
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 510