Llesiant: Bwydo'ch Meddwl

Llesiant: Bwydo'ch Meddwl

Oeddech chi'n gwybod y gall bwyta'n dda gael effaith gadarnhaol ar eich meddwl yn ogystal â'ch corff? Yn enwedig yn ystod tymor yr arholiadau mae'n bwysig eich bod chi'n bwyta'r holl fwyd ymennydd cywir. Gwnaethom siarad ag Allison Candy, ein harbenigwr pwnc ar gyfer Paratoi Bwyd a Maeth i gael ei chynghorion gorau ar sut i fwyta'n dda i'ch helpu i gadw ffocws ac egnïol.

Dechrau'r diwrnod yn dda

Beth ddylech chi ei fwyta i ddechrau eich diwrnod yn dda? Carbohydradau sy'n rhyddhau'n araf sydd orau i frecwast cyn eich arholiad/sesiwn adolygu; beth am uwd, bara grawn cyflawn neu fiwsli? Bydd ychwanegu protein yn golygu y byddwch yn teimlo'n fwy llawn am fwy o amser telly dewiswch lefrith, wyau neu iogwrt - gallwch ychwanegu rhywfaint o flas gydag aeron a chnau.

Hydradu

Profwyd bod dwr yn cryfhau pwer yr ymennydd ac yn rhoi egni i'ch corff. Bydd yn eich helpu i ganolbwyntio am fwy o amser, drwy atal cur pen a chael gwared ar unrhyw docsinau, gan eich cadw'n teimlo'n ffres ac wedi'ch hydradu.

Cynnal eich lefelau egni

Yn ddelfrydol, mae angen pum dogn o ffrwythau a llysiau y  dydd, ond beth arall all roi'r hwb o egni sydd ei angen arnoch yn ystod y tymor arholiadau?

Efallai fod menyn cnau mwnci yn cynnwys cryn dipyn o galorïau - ond mae hynny'n beth da yn yr achos hwn! Mae'n llawn brasterau iach ac mae llawer o brotein ynddo - rhowch rywfaint ar dost gwenith cyflawn a byddwch yn barod i fynd. Os nad ydych yn hoffi cnau mwnci, mae amrywiaeth o fathau o fenyn cnau naturiol eraill ar gael.

Efallai nad yw marmite at ddant pawb, ond ydy, mae marmite yn un o'r ffynonellau bwyd gorau o thiamin (fitamin Bl) a phyriciocsin (fitamin B6). Mae'r ciciau yn chwarae r6I wrth gynhyrchu niwrocirosglwyciciycici, sy'n cryfhau cof a gwybyciciiaeth. Os yw'n anocici meciciwl am ei fwyta, meciciyliwch amciano fel bwyci i'r ymennydd.

Ceisiwch osgoi bwyydd wecii'u prosesu - mae'r rhain yn cynnwys lefelau uchel o halen, siwgr a brasterau cirwg! Nici yw'r rhain yn cicia i'ch lefelau egni nae i'ch corff yn gyffreciinol.

Gwobrwywch eich hun

Cadw'r gorau tan y diwedd - siocled tywyll. Mae astudiaethau wedi canfod y gall siocled leihau eich pwysedd gwaed a chadw eich ymennydd yn effro  ac  yn  canolbwyntio  oherwydd y polyffenolau mewn coco sy'n cynyddu llif y  gwaed  i'r  ymennydd.  Ceisiwch fwyta siocled gyda 100% coco ac osgowch siocledi sydd  wedi'u  prosesu'n  ormodol  gan foci y rhain yn cynnwys lefelau uchel o siwgr, a all gael effaith andwyol ar eich lefelau egni.

Crynodeb

I grynhoi, dyma'r awgrymiadau allweddol y mae angen i chi eu cacd mewn cof yn ystod y cyfnod adolygu ac ar arholiadau:

  • Bwytwch frecwast da, iachus
  • Bwytwch brydau llai, yn fwy aml
  • Mae dwr yn ffrind i chi
  • Osgowch fwydydd wedi'u prosesu

Pob lwc a mwynhewch y bwyta!