Delio â straen yn y cyfnod cyn Diwrnod Canlyniadau

Delio â straen yn y cyfnod cyn Diwrnod Canlyniadau

Un peth y gallwch fod yn sicr ohono yn ystod yr amser hwn yw nad ydych ar eich pen eich hun yn teimlo rhyw fath o straen. Mae’n gyfnod anodd i bawb, ac rydyn ni wedi llunio rhai awgrymiadau a gwefannau defnyddiol a all eich helpu chi.

Cawsom sgwrs â Dr Rachel Dodge, Rheolwr Datblygu Cymwysterau (a PhD mewn Seicoleg – yn canolbwyntio ar lesiant myfyrwyr), a ddywedodd wrthym am yr hyn sy'n digwydd i'n cyrff a'n meddyliau pan fyddwn ni'n teimlo dan straen, yn ogystal â ffyrdd o frwydro yn erbyn yr effeithiau hyn.

Beth yw Straen?

Mae'r GIG yn diffinio straen fel teimlad o fod dan ormod o bwysau meddyliol neu emosiynol. Os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu ymdopi â phwysau, yna mae'n troi'n straen, sy'n gallu effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol.

Arwyddion o straen

Gall straen amlygu ei hun mewn sawl ffordd; rydym yn tueddu i ganolbwyntio llawer ar effeithiau emosiynol straen fel y teimlad o banig neu ddim yn teimlo mewn rheolaeth, ond mae effeithiau straen hefyd i'w gweld yn ein cyflyrau gwybyddol a chorfforol. Efallai fod rhai pobl yn gyfarwydd iawn â'r teimlad o deimlo'r coesau'n gwanhau neu gyfradd y galon yn cynyddu mewn rhai sefyllfaoedd, yn ogystal â'r teimlad o frwydro i ganolbwyntio mewn sefyllfa anodd. Ond y peth da yw, mae ffyrdd o frwydro yn erbyn y teimladau hyn.

Sut i wrthsefyll yn erbyn straen arholiadau

1. Ymarfer technegau anadlu. Efallai ei fod yn swnio'n syml ond mae gallu rheoli eich anadlu pan fyddwch yn dechrau teimlo dan straen yn ffordd ddefnyddiol iawn o ymdawelu. Bydd yn rhoi rhywfaint o amser i chi ymlacio a thawelu eich meddwl er mwyn gallu canolbwyntio eto ar y dasg dan sylw.

2. Rhowch gynnig ar rai dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar. Mae yna lawer o apiau y gallwch eu lawrlwytho ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar neu gallwch ddod o hyd i fideos ar YouTube. Profwyd bod Ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu unigolion i ymdopi yn well ag effeithiau straen. Bydd ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar/meddylgarwch yn eich helpu i newid y ffordd rydych yn canfod yr effeithiau a bydd yn caniatau i chi ddefnyddio unrhyw bwysau er eich lles chi.

3. Crëwch, adroddwch, cofiwch ac yn bwysicaf oll, credwch mewn mantras personol positif. Er ei fod yn haws dweud na gwneud, bydd newid y ffordd rydych yn meddwl yn gwneud gwahaniaeth hollbwysig mewn sefyllfaoedd anodd. Pan rydym yn teimlo dan straen, rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar y meddyliau negyddol a chanlyniadau posibl sefyllfaoedd, ond os gallwch ddefnyddio eich egni i gredu'r mantras positif rydych wedi'u creu, yna bydd hyn yn help mawr i'ch helpu i aros yn ddigynnwrf yn y cyfnodau hynny y byddwch chi dan bwysau.

4. Cofiwch i edrych ar ôl eich hun. Mae’n bwysig cymryd amser i wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau i leddfu’ch meddwl, p'un a yw hynny’n cael bath, darllen neu chwarae gemau cyfrifiadur, mae amser i chi'ch hun yn bwysig. Mae bwyta’n iawn, yfed digon o ddŵr a chadw trefn gymdeithasol i gyd yn bwysig hefyd.

Un o'r pethau pwysicaf i'w gofio am straen dros dderbyn eich canlyniadau yw, mae’n hynod o debygol nad chi yw'r unig un sy'n teimlo fel hyn. Siaradwch â'ch ffrindiau am sut rydych chi'n teimlo, ac efallai y byddwch yn gallu helpu'ch gilydd ar bethau sy'n anodd i chi. Os bydd angen rhagor o arweiniad arnoch, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n siarad â rhiant neu warcheidwad a all eich helpu chi, mae yna hefyd llawer o adnoddau ar-lein, rydyn ni wedi’u cynnwys isod.

 

Young Minds

WhatUni

Ofqual Blog

The Student Room