Chwilio am gymhelliant i’ch cadw yn heini'r gaeaf yma?

Chwilio am gymhelliant i’ch cadw yn heini'r gaeaf yma?

Wrth i'r tywydd oeri ac wrth i'r dyddiau fynd yn fyrrach, mae'n anodd i gadw cymhelliant i gadw'n egnïol. I ddweud y gwir, byddai'n llawer gwell gennym ymlacio o flaen tân cysurus gyda llyfr da a siocled poeth.

Felly, rydym wedi gweithio gyda Sean Williams, Swyddog Pwnc Addysg Gorfforol, i lunio rhestr o bethau i'w gwneud a phethau i'w hosgoi ynghylch sut i sbarduno eich hun eto ac i drechu diflastod y gaeaf.

 

Gosodwch nodau

Mae nodau yn ffordd wych o gynnal cymhelliant - ond mae angen iddyn nhw bob amser fod o fewn cyrraedd! Ewch yn araf i ddechrau. Cofiwch fod unrhyw beth yn well na dim byd. Gall 30 munud yn unig gryfhau'r esgyrn, lleihau braster y corff, a rhoi hwb i bŵer a dygnwch y cyhyrau.

Peidiwch ag ofni eich sesiwn ymarfer

Bydd agwedd negyddol yn gwneud y sesiwn 10 gwaith yn waeth. Ceisiwch fod yn gadarnhaol ac atgoffwch eich hun o'r nod - byddwch chi'n diolch i'ch hun wedyn!

Lluniwch restr o ganeuon ysbrydoledig

Bydd cael eich hoff gerddoriaeth yn eich clustiau wrth ymarfer yn gwneud y cyfan yn llawer mwy o hwyl. Gallwch chi gadw at y rhythm a fyddwch chi ddim yn poeni cymaint am ba mor anodd yw’r ymarfer ei hun.

Peidiwch â phwyso 'snooze'

Pan fydd y larwm yn canu, codwch! Peidiwch â meddwl gormod am yr ymarfer corff, ewch ati i’w wneud!

Rhowch eich dillad ymarfer corff ar y rheiddiadur

Bydd cynhesu eich dillad yn barod i fynd yn eich helpu i ymdopi â boreau oer a chaled.  

Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar bethau gwahanol

Gall gwneud yr un peth, dro ar ôl tro, fynd yn ddiflas yn gyflym. Mae rhoi cynnig ar bethau gwahanol yn ffordd o hybu cymhelliant a brwdfrydedd ond hefyd yn gweithio cyhyrau gwahanol, sy’n golygu bod eich sesiwn yn fwy effeithiol.

Gwisgwch yn briodol

Yn ôl y sôn, does dim y fath beth â thywydd gwael, dim ond dillad gwael Beth mae rhagolygon y tywydd yn ei ddweud? Ystyriwch haenau ysgafn! Mae'n dda dechrau'n gynnes ond gallu tynnu eitemau o ddillad os oes angen.