Cefnogi eich system imiwnedd trwy faethiad

Cefnogi eich system imiwnedd trwy faethiad

Mae cefnogi ein system imiwnedd a sicrhau bod y corff ar ei orau er mwyn ymladd yn erbyn afiechyd o'r pwys mwyaf ar hyn o bryd. Cydbwysedd yw popeth! Mae pob un ohonom ni wrth ein boddau â 'diwrnod twyllo' ac ni ddylem wrthod ein hoff ddanteithion bob tro –ond cofiwch cymedroldeb piau hi! Gwneud dewisiadau ffordd o fyw iach trwy fwyta bwydydd maethlon a chael digon o ymarfer corff a chwsg yw'r ffyrdd pwysicaf o hybu a chynnal system imiwnedd gref.

Rhowch gynnig ar y bwydydd, fitaminau ac awgrymiadau llesiant canlynol er mwyn i chi deimlo ar eich gorau pan fyddwch chi gartref:

Maetholion maethlon
Mae fitamin A, C, sinc a haearn yn faetholion sylfaenol o ran cefnogi eich system imiwnedd. Maent yn helpu i gynyddu cynhyrchiad celloedd gwyn y gwaed ac maent yn wrthocsidyddion gwych. Ein hoff fwydydd sy'n llawn maetholion?

  • Fitamin C

Llenwch eich dysgl ffrwythau a'ch drôr llysiau â ffrwythau fel ciwi, mefus, mafon a llysiau lliwgar fel tomatos, pupurau a llysiau gwyrdd tywyll.

  • Fitamin A

Mae fitamin A yn fitamin hydawdd mewn braster sy'n chwarae rhan hanfodol yn cynnal y golwg, twf y corff, y ffordd mae’r system imiwnedd yn gweithio ac iechyd atgenhedlu. Felly, y tro nesaf y byddwch chi yn yr archfarchnad, gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu digon o wyau, llaeth, moron, tatws melys, pwmpen, llysiau deiliog gwyrdd tywyll a sbigoglys.

  • Sinc

Mae sinc yn fwynhanfodol nad yw eich corff yn ei greu ar ei ben ei hun, felly mae'n bwysig cael digon ohono yn eich deiet. Mae sinc i'w gael yn naturiol mewn amrywiaeth eang o fwydydd, fel; cig, pysgod cregyn, pwmpen, hadau cywarch a sesame, cnau cashiw, cnau pîn, wyau, cêl, grawn cyflawn, madarch a siocled tywyll neu goco... Hwrê!

  • Haearn

Mae haearn yn faetholyn hanfodol, mae'n helpu i gludo ocsigen drwy'r corff. Mae wyau, cnau cashiw, almonau, cig coch, hadau pwmpen a blodau'r haul, tofu neu tempe, corbys, ffa, ffacbys, reis brown a cwinoa yn ffynonellau gwych o haearn.

 

Smwddis syfrdanol

Mae smwddis yn ffordd mor syml a blasus o gael fitaminau a mwynau o ffrwythau a llysiau cyfan gyda'r ffibr wedi'i gynnwys, er mwyn arafu amsugniad y siwgr. Mae rhai ffrwythau, llysiaua pherlysiau yn arbennig o uchel mewn polyffenolau –cyfansoddion planhigion sydd â manteision iechyd amrywiol, gan gynnwys cydbwyso imiwnedd.Mae afalau, orenau, grawnffrwyth, aeron, sbigoglys, moron a sinsir yn gynhwysion blasus iawn!


Trio Tyrmerig

Mae'r llysieuyn arbennig hwn (o'r teulu sinsir), yn wrthocsidydd, yn cydbwyso imiwnedd, yn wrthlidiol, sydd hefyd yn gwella treulio braster ac yn helpu i ddadwenwyno'r afu! Beth sydd ddim i'w hoffi?Peidiwch ag anghofio ychwanegu pinsiad o bupur du wrthgoginio gyda tyrmerig er mwyn helpu gydag amsugniad.

Fitamin yr Heulwen

Cydiwch yn eich sbectol haul ac ewch i'r ardd –mae'n amser i amsugno'r pelydrau hynny! Mae fitamin D yn helpu'r corff i amsugno calsiwm a ffosffad o'n deiet. Mae'r mwynau hyn yn bwysig ar gyfer esgyrn, dannedd a chyhyrau iach. Mae ein system imiwnedd hefyd yn dibynnu'n aruthrol ar fetabolaeth fitamin D oherwydd bod gennym dderbynyddion fitamin D ar gelloedd imiwnedd amrywiol.Mae ffynonellau bwyd yn cynnwys wyau, madarch a physgod.

Popeth yn gymedrol

Mae'n bwysig peidio â gorwneud yn rhy aml. Gall bwyta gormod o fwydydd wedi'u prosesu, sy'n cynnwys llawer o omega 6 a siwgr fel arfer, achosi llidio. Gall diet gwell hefyd helpu gyda'ch cwsg ac rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw cwsg da.