CBAC yn noddi Seremoni Gwobrwyo Dysgwyr

CBAC yn noddi Seremoni Gwobrwyo Dysgwyr

Llongyfarchiadau mawr i enillwyr y Seremoni Gwobrwyo Dysgwyr Coleg y Cymoedd 2024.

Roeddem yn falch iawn o ddathlu llwyddiannau anhygoel y dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd yn eu Seremoni Wobrwyo Flynyddol ddiweddar, a gynhaliwyd ar gampws Nantgarw y coleg ar dydd Mercher 19 Mehefin.

Roedd yr awyrgylch yn drydanol gydag aelodau balch o deulu, ffrindiau, athrawon a llywodraethwyr yn anrhydeddu llwyddiant dysgwyr o bob un o'r pedwar campws – Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach. 

Cafodd pob un o’r dysgwyr eu henwebu gan eu tiwtoriaid, wrth iddynt gydnabod eu hymdrech a'u cyfraniad dros y 12 mis diwethaf. Cyflwynwyd dros 42 o wobrau ar draws pob maes yn y cwricwlwm gan gynnwys Safon Uwch, Adeiladu, Gofal Plant, Chwaraeon a llawer mwy. Cafodd dros 10,000 o ddysgwyr eu henwebu am wobr, felly roedd y noson yn llwyddiant ysgubol.  

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y gwobrau a noddwyd gennym wedi mynd i:

  • Gwobr Safon Uwch: Saffron O’Sullivan-Hayball
  • Gwobr Gwyddoniaeth Safon Uwch: Isabell Pisani

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Roedd y seremoni wobrwyo heddiw yn anhygoel - mor ysbrydoledig!  Llongyfarchiadau enfawr i bawb a gafodd eu henwebu ac a dderbyniodd wobr – dylen nhw fod yn hynod falch o'u llwyddiant.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Coleg y Cymoedd.