CBAC yn cyhoeddi cymhwyster cynaliadwyedd ar gyfer swyddi 'sero net' y dyfodol

CBAC yn cyhoeddi cymhwyster cynaliadwyedd ar gyfer swyddi 'sero net' y dyfodol

Mae CBAC wedi lansio ei gymhwyster 'Cynaliadwyedd ar Waith' i gefnogi swyddi 'sero net' y genhedlaeth nesaf o weithwyr.

Datblygwyd y cymhwyster ar y cyd â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, y Cwricwlwm i Gymru, a Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Daw'r datblygiad yn sgil diddordeb mawr gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru a Lloegr sy'n gweithio gyda CBAC i gynnig darpariaeth cynaliadwyedd arloesol sy'n bodloni anghenion sgiliau a gwybodaeth eu dysgwyr.

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster, bydd y dysgwyr yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithio yn swyddi 'sero net' y dyfodol, gan gynnwys arwain, rheoli newid ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Lansiwyd y cymhwyster yn ffurfiol mewn digwyddiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker a Phrif Weithredwr CBAC, Ian Morgan.


Dywedodd Ian Morgan: "Bydd y cymwysterau hyn yn rhoi'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar ddysgwyr i fynd i'r afael â'r materion hinsawdd yn rhesymegol ac yn ofalus, a'u paratoi ar gyfer y gofynion i weithio'n llwyddiannus ym maes cynaliadwyedd ac mewn swyddi sero net.

"Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol i'r sawl sy'n dilyn y cymwysterau hyn. Mae'n hollbwysig ein bod yn cymryd pa gamau bynnag y gallwn yng nghanol yr argyfwng hinsawdd er mwyn addo dyfodol disglair i'r rhai sy'n dod ar ein holau."


Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru: "Mae gadael planed y gall pobl y dyfodol fyw arni yn ddyletswydd anrhydeddus, ac rwy’n falch o ddweud y bydd pobl yng Nghymru cyn bo hir yn gallu astudio sut i ddiogelu buddiannau cenedlaethau'r dyfodol.

“Bydd y cymwysterau newydd hyn yn ein helpu i symud tuag at weledigaeth Cymru Can, fy strategaeth ar gyfer Cymru sy'n lle gwell i fyw ynddo, gyda dyfodol disglair ac optimistaidd – sy'n ffynnu, yn gynhwysol ac yn wyrdd, wrth i ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r materion sy'n ein hwynebu, fel yr argyfyngau hinsawdd a natur ac anghydraddoldebau iechyd sy'n cynyddu.

"Mae hwn yn gam cadarnhaol a chyffrous ymlaen i'r Cwricwlwm newydd i Gymru, lle mae gan bawb y cyfle i ddysgu am ddeddfwriaeth unigryw ac arloesol Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), a lle gallan nhw chwarae rhan yn y gwaith o adeiladu dyfodol gwell mewn 5, 25, 100 mlynedd."


Dywedodd Wyn Prichard, Uwch Ymgynghorydd Cynaliadwyedd a Sero Net a Chadeirydd Grŵp Datblygu Cymwysterau CBAC: "Fel rhywun sydd wedi bod yn ymwneud â sgiliau a hyfforddiant ers dros 30 mlynedd, braint yw cael bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cymwysterau allweddol hyn.

"Mae cynaliadwyedd yn faes dysgu allweddol i bawb ac o fod yn un o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau'r Dyfodol 100 a chadeirydd Cymru yn ysgol y gadwyn gyflenwi Cynaliadwyedd, mae'n wych gweld y bartneriaeth hon â CBAC yn cyflawni hyn mewn gwir bartneriaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn sylfaen i ddyheadau Llywodraeth Cymru o fusnesau a sail sgiliau Sero NET."


Yn dilyn y cymhwyster 'Cynaliadwyedd ar Waith', gall dysgwyr ddewis o amrywiaeth o unedau dewisol i wella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gynaliadwyedd mewn cyd-destunau mwy penodol, drwy barhau â'r cymhwyster 'Cynaliadwyedd yn ei Gyd-destun'.

Gan adeiladu ar hyn, mae CBAC yn datblygu dau gymhwyster 'Cynaliadwyedd ar Waith'. Nod y cymhwyster Lefel 2 'Cynaliadwyedd ar Waith: Ysgogwyr Newid y Dyfodol' yw grymuso unigolion i ddod yn 'ysgogwyr newid cynaliadwyedd', a bydd y cymhwyster Lefel 3 'Cynaliadwyedd ar Waith' yn cefnogi'r rhai hynny sydd eisoes â chyfrifoldeb am gynaliadwyedd yn eu sefydliad. Bydd y cymwysterau'n canolbwyntio ar sgiliau cymwys megis arwain, meddwl strategol, a'r gallu i arwain a rhoi mentrau cynaliadwy ar waith mewn sefydliadau.

I gael mwy o wybodaeth am y gyfres newydd o gymwysterau, cysylltwch â Jonathan.Thomas@cbac.co.uk