UG/Safon Uwch Busnes
Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r amgylchedd busnes dynamig a phwysigrwydd gweithgaredd entrepreuneuraidd wrth greu cyfleoedd busnes a chynnal twf busnes. Yn y fanyleb hon, canolbwyntir ar fagu brwdfrydedd am astudio busnes gan ddefnyddio cyd-destunau cyfoes, sy'n caniatáu i ddysgwyr ddod i werthfawrogi pa mor strategol, cymhleth a chydberthynol yw natur materion busnes o bersbectif lleol i fyd-eang.
Gweld y cynlluniau marcio sydd ar gael ar gyfer Busnes UG / Safon Uwch.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Rydym wedi creu Rhwydwaith Busnes ar Facebook i athrawon rannu syniadau, cyngor, adnoddau ac arferion da
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Edrych ar ffiniau graddau cyfresi arholiadau’r gorffennol
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.
Adnoddau Addysgol Digidol CBAC
Rhwydwaith Athrawon Busnes ar Facebook
Rydym wedi creu Rhwydwaith TGAU a TAG UG/Safon Uwch Busnes ar Facebook i athrawon rannu syniadau, cyngor, adnoddau ac arferion da. Y bwriad ydi i'r rhwydwaith hwyluso cydweithio rhwng athrawon busnes ledled y wlad.
Safon Uwch Llyfr Busnes: 2il Flwyddyn - Dadansoddiad, Strategaeth a Byd sy’n newid
Gall canolfannau archebu heddiw trwy lenwi'r ffurflen hon, neu gallwch archebu ar Amazon. |
UG Llyfr Busnes: Blwyddyn 1 - Cyfleoedd a Swyddogaethau Busnes
Gall canolfannau archebu heddiw trwy lenwi'r ffurflen hon, neu gallwch archebu ar Amazon. |
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.