Cynllun Cyhoeddi
O dan Adran 19(1) Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae'n ofynnol i WJEC CBAC Ltd arfer a chynnal cynllun cyhoeddi sy'n nodi'r dosbarthiadau o wybodaeth yr ydym yn eu cadw, y fformat yr ydym yn bwriadu cyhoeddi'r wybodaeth, ac a godir tâl am y wybodaeth ai peidio.
Mae CBAC wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ffurfiol, sy'n nodi'r saith dosbarth o wybodaeth y dylai cyrff cyhoeddus eu cyhoeddi.
Mae'r tablau isod yn nodi'r saith dosbarth o wybodaeth a'r wybodaeth sydd ar gael y mae CBAC yn ei chyhoeddi ym mhob dosbarth, ble i ddod o hyd i'r wybodaeth a sut i'w chael.
Ni chodir tâl am wybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan. Os oes angen copïau papur o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.
Bydd y cynllun cyhoeddi yn cael ei gynnal a'i ddiweddaru'n rheolaidd gan WJEC CBAC Limited.
Os hoffech wneud cais am wybodaeth nad yw ar gael drwy ein cynllun cyhoeddiadau, gallwch gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth yn ysgrifenedig i'r cyfeiriad isod. Sylwch efallai na fyddwn yn gallu darparu rhywfaint o wybodaeth os caiff ei diogelu gan Ddeddf Diogelu Data 2018 neu eithriad o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, neu fel eithriad o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, a gellir golygu dogfennau yn unol â hynny.
Swyddog Diogelu Data, WJEC CBAC Ltd, 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX. Data.protection.officer@wjec.co.uk
> Polisi Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Pwy ydym ni a beth rydym ni'n ei wneud
Gwybodaeth am y corff, lleoliadau a chysylltiadau, llywodraethu cyfansoddiadol a chyfreithiol
Math o ddogfen |
Ffynhonnell |
Rolau a Chyfrifoldebau |
|
Strwythur y Corff |
|
Gwybodaeth sy'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i swyddogaethau |
> Rheoliadau'r Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC) > Llawlyfr Ofqual: Amodau Cydnabyddiaeth Cyffredinol |
Prif Weithredwr / Cyfarfodydd bwrdd gyda Gweinidogion a chyrff allanol |
|
Cyfarfodydd Uwch Swyddogion Gweithredol a Chyfarfodydd Bwrdd |
|
Manylion Cyswllt a Lleoliad |
Beth rydyn ni'n ei wario a sut rydyn ni'n ei wario
Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant a ragamcanwyd a gwirioneddol, tendro, caffael a chontractau.
Math o ddogfen |
Ffynhonnell |
Datganiadau ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant |
|
Adroddiadau Archwiliad Ariannol |
|
Lwfansau a threuliau Uwch Aelodau Staff ac Aelodau o'r Bwrdd |
|
Strwythurau tâl a graddio |
|
Gweithdrefnau Caffael |
|
Datganiadau ariannol ar gyfer rhaglen a digwyddiadau |
|
Manylion gwariant dros £25,000 |
|
Rheoliadau Ariannol Mewnol |
Beth yw ein blaenoriaethau a sut gynnydd ydym yn ei wneud?
Gwybodaeth am strategaeth a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygiadau ac adolygiadau
Math o ddogfen |
Ffynhonnell |
Cynlluniau Strategol |
|
Cynllun Busnes Blynyddol |
|
Adroddiadau Blynyddol |
|
Adolygiadau perfformiad mewnol ac allanol |
Sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau
Cynigion a phenderfyniadau polisi. Prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf a gweithdrefnau mewnol, ymgynghoriadau.
Math o ddogfen |
Ffynhonnell |
Cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig |
|
Gwybodaeth gefndirol sy'n ymwneud â chynigion a phenderfyniadau polisi pwysig |
|
Cofnodion cyfarfodydd lefel uwch |
|
Adroddiadau a phapurau a ddarperir i'w hystyried mewn cyfarfodydd lefel uwch |
|
Canllawiau a meini prawf cyfathrebu mewnol a ddefnyddir ar gyfer gwneud penderfyniadau (systemau proses) |
Polisïau a Gweithdrefnau
Protocolau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni ein swyddogaethau a'n cyfrifoldebau.
Math o ddogfen |
Ffynhonnell |
Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cynnal busnes y cwmni |
|
Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer darparu gwasanaethau |
|
Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cyflogi staff |
|
Gwasanaeth i Gwsmeriaid (cwynion) |
|
Rheoli cofnodion a pholisïau data personol |
|
Asesiadau Effaith Diogelu Data |
|
Hysbysiad Preifatrwydd |
Rhestri a Chofrestri
Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestri sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith a rhestri a chofrestri eraill sy'n ymwneud â swyddogaethau awdurdod.
Math o ddogfen |
Ffynhonnell |
CCTV |
|
Cofnodion datgelu |
|
Cofrestr o anrhegion, nawdd a lletygarwch a dderbyniwyd gan Aelodau'r Bwrdd ac Uwch Aelodau Staff |
Gwasanaethau rydym yn eu cynnig
Cyngor ac arweiniad, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i'r cyfryngau. Disgrifiad o'r gwasanaethau a gynigir.
Math o ddogfen |
Ffynhonnell |
Cyfrifoldebau rheoleiddiol |
> Rheoliadau'r Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC) > Llawlyfr Ofqual: Amodau Cydnabyddiaeth Cyffredinol |
Taflenni, llyfrynnau a chylchlythyrau |
|
Cyngor ac Arweiniad |
|
Datganiadau i'r cyfryngau |