
Mae CBAC wedi ymrwymo i sicrhau bod sgript pob ymgeisydd yn cael ei marcio a'i hasesu'n deg ac yn fanwl gywir.
Mae Arholwyr a Chymedrolwyr yn hanfodol ar gyfer cyflwyno ein cymwysterau ac rydym yn cyflogi miloedd o athrawon, athrawon wedi ymddeol, darlithwyr addysg bellach ac arbenigwyr addysg i sicrhau bod safon uchel ein marcio yn cael ei chynnal.