Datblygwch ddealltwriaeth eich dysgwyr o led-ddargludyddion a gweithgynhyrchu uwch tra'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i'w paratoi ar gyfer cyflogaeth o fewn y diwydiant hanfodol hwn.
Mae lled-ddargludyddion yn hanfodol i'r dechnoleg sy'n gwneud bywyd modern yn bosibl, ac mae Cymru'n ganolbwynt o ran arloesedd ar gyfer y sector.
Gyda hyn mewn golwg, mae CBAC yn cydweithio â rhanddeiliaid gan gynnwys CSconnected (clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd) i ddatblygu cymwysterau newydd i gefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion yng Nghymru:
Ar gyfer pwy mae'r cymwysterau hyn?
Mae ein cymwysterau lled-ddargludydd wedi'u llunio i'w cyflwyno ar draws amrywiaeth o leoliadau; o'r ysgolion ac Addysg Bellach i'r gweithle.
Cofrestru eich diddordeb
Cysylltwch â ni ar dyfodol@cbac.co.uk i ddysgu mwy, neu tanysgrifiwch am ddiweddariadau.
Pam dewis CBAC?
Dim ffioedd cymeradwyo canolfannau
Mae ffioedd yn daladwy wrth ymrestru dysgwyr, ac nid oes isafswm o ran maint carfan.
Cyfnod ymrestru a dyfarnu hyblyg
Mae'n bosibl ymrestru dysgwyr i'w hardystio ar unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau i gefnogi eu cynnydd.
Cefnogaeth dros rychwant oes y cymwysterau
Mae CBAC wedi ymrwymo i gefnogi canolfannau a dysgwyr dros rychwant oes ein cymwysterau, ni waeth beth fo maint y garfan.
"Mae technegwyr lled-ddargludyddion yn hanfodol i lwyddiant y diwydiant lled-ddargludyddion yn Ne Cymru a thu hwnt. Mae angen y cymwysterau hir-ddisgwyliedig hyn er mwyn cyflwyno mwy o bobl i'r diwydiant cynyddol yma sydd ar garreg eu drysau.
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o'r amrywiaeth o gyfleoedd swyddi lled-ddargludydd sydd ar gael, neu fod bron yr holl dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio o ddydd i ddydd yn cynnwys lled-ddargludyddion. Bydd y cymwysterau hyn yn gwella a datblygu'r wybodaeth, sgiliau a'r priodoleddau sydd ei hangen i dyfu a llwyddo yn y maes technolegol pwysig hwn."
- Dr Lewis Kastein | Uwch Beiriannydd Cynnyrch Ffotoneg Ymchwil a Datblygu | IQE plc