Dathlu gwneuthurwyr ffilmiau y dyfodol yng Ngwobrau Delwedd Symudol CBAC
Dathlwyd gwneuthurwyr ffilm ifanc yn ein 11eg Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol yn y British Film Institute ar 10 Chwefror.
Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, a lansiwyd yn 2014 mewn cydweithrediad â'r British Film Institute, yn cydnabod ac yn dathlu cynyrchiadau delwedd symudol gorau myfyrwyr sy'n sefyll cymwysterau CBAC mewn Ffilm a'r Cyfryngau ar draws y DU.
Ymhlith categorïau 2025 oedd Ffilm Fer, Fideo Cerddoriaeth, Sgript Ffilm, Darn Teledu/Ffilm, Animeiddiad, Un i'w Wylio a Gwobr Rheithgor Myfyrwyr.
Enillodd Thomas Langridge o Ysgol Uwchradd Twyford Church of England yn Llundain, y Wobr Rheithgor Myfyrwyr enwog yng ngwobrau eleni, yn ogystal ag ennill yn y categori animeiddio ar gyfer ei ffilm 'The Landlord's Inspection', sy'n dilyn landlord yn arolygu ei wahanol denantiaid, gan dalu teyrnged i Keaton a Hitchcock wrth i ddwy stori sy'n ymddangos yn rai sydd ar wahân gysylltu â'i gilydd. Sylwadau'r beirniaid: 'Mae The Landlord’s Inspection yn cynnig stori gomig amlhaenog. Gyda lluniad diddorol o gymeriadau a senarios doniol, mae'r gynulleidfa'n mynd ar daith gythryblus trwy floc fflatiau bywiog trwy lygaid ei landlord taer, styfnig. Mae'r ffilm yn defnyddio toreth o dechnegau adrodd stori creadigol ac mae wedi'i weithredu'n wych. Roedd y rheithgor yn teimlo fod y dyluniad gweledol yn ddychmygus, gydag arddull unigryw drawiadol a dealltwriaeth sicr o sut i greu canlyniadau comedi. Mae'n wych. Camp go iawn.' Yn dilyn ei fuddugoliaeth, dywedodd Thomas: 'Rwyf wedi gwir fwynhau heddiw. Mae wedi bod yn hyfryd iawn ac yn awyrgylch mor groesawgar a chreadigol. Mae mor wych bod mewn ystafell lle mae pawb â'r un math o feddylfryd, ac yr un mor benderfynol. Mae'r ffaith ein bod ni i gyd yma yn dangos lefel o uchelgais sydd, yn fy marn i, yn ganmoladwy iawn. Rwyf mor falch fy mod wedi ennill y gwobrau hyn ac rwyf wedi mwynhau rhwydweithio gyda'r cystadleuwyr eraill. Mae'n llawer o hwyl, yn greadigol iawn ac yn gyrru'r diwydiant ymlaen. Mae'r geiriau hyn yn bwysig; ‘Gyrru'r Diwydiant Ymlaen’.' |
Aeth mwy o wobrau i:
Ffilm Fer Enillodd Kateryna Iwasko o Goleg Ashbourne yn Llundain y categori ffilm fer am ei ffilm o'r enw 'Ikebana', sy'n dilyn merch ifanc wrth iddi brosesu marwolaeth ei mam trwy fynegi ei galar trwy'r grefft o drefnu blodau, ikebana. Sylwadau'r beirniaid: 'Roedd y ffilm yn cynnal naws emosiynol a meddylgar iawn drwyddi draw, roedd y dull o ymdrin â'r pwnc sensitif yn aeddfed ac yn deimladwy iawn. Roedd enghreifftiau o sinematograffi hardd, yn ogystal â llunio naratif ystyriol. Rhagorol ym mhob ffordd.' |
Fideo Cerddoriaeth Enillodd Mark Bratkin o Goleg DLD Llundain y categori fideo cerddoriaeth am ddarn o'r enw 'Misbehaving' gan ddefnyddio arddulliau anarferol o onglau camera a montage. Sylwadau'r beirniaid: 'Cynhyrchiad trawiadol iawn sy'n llunio gwir ymdeimlad o'r artist. Mae ymwybyddiaeth ragorol o sut mae codau gweledol gan gynnwys lleoliad a dillad yn cyfrannu at at greu persona seren. Cynnyrch sy'n edrych yn broffesiynol iawn, wedi'i ffilmio a'i olygu'n dda.” |
Sgript Ffilm Enillodd Lucy Robinson o Goleg y Chweched Dosbarth yn Farnborough y wobr Sgript Ffilm am ddarn o'r enw 'Disappointed’. Mae'r darn yn dilyn dau deulu hollol wahanol sy'n ymateb i glefyd marwol mewn gwahanol ffyrdd, gan frwydro gyda stereoteipiau a delfrydau da a drwg i aros yn ddiogel a heb eu heffeithio. Sylwadau'r beirniaid: 'Lluniad aeddfed ac argyhoeddiadol o ddyfodol a effeithir gan bandemig. Mae gwrthwynebiad deuaidd cryf yn cael ei greu rhwng dau deulu a'u profiadau yn y byd hwn – strwythur hyderus ac aeddfed, gyda chymeriadau wedi'u hysgrifennu'n fedrus.' |
Mae'r fideos buddugol i'w gweld ar sianel YouTube Gwobrau Delwedd Symudol.
Mae'r digwyddiad wedi ennyn cydnabyddiaeth gan addysgwyr ac athrawon astudiaethau ffilm ac astudio’r cyfryngau mewn gwahanol sefydliadau ar draws y DU, ynghyd â ffigurau amlwg yn y diwydiant ffilm. Ymhlith y siaradwyr gwadd eleni roedd Anna Smith, un o feirniaid ffilm a darlledwyr mwyaf blaenllaw y DU, Kate Leys, golygydd sgriptiau a straeon, Amrou Al-Kadhi, awdur, gwneuthurwr ffilmiau a pherfformiwr a Larushka Ivan-Zadeh, Prif Feirniad Ffilm Metro.
Meddai Amrou Al-Kadhi: 'Roedd y seremoni wobrwyo heddiw yn anhygoel - mor ysbrydoledig! Gobeithio bod y myfyrwyr wedi cael llawer o awgrymiadau diriaethol ynghylch sut i symud ymlaen trwy eu gyrfaoedd. Rydyn ni wedi trafod popeth o fanteision rhwydweithio i gredu ynoch chi'ch hun, ac rwy'n gobeithio fod heddiw wedi datgyfrinio'r ffyrdd o ymuno â’r diwydiant.'
Dywedodd Dr. Jenny Stewart, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC: 'Mae wedi bod yn bleser gweld cynyrchiadau delwedd symudol a sgriptiau ffilm mor arloesol a dathlu gyda chynhyrchwyr cyfryngau a gwneuthurwyr ffilmiau ifanc yng Ngwobrau Delwedd Symudol eleni. Hoffem ddymuno'r gorau ar gyfer y dyfodol i'r holl ymgeiswyr a'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.'
'Diolch i'n beirniaid a gafodd y swydd werth chweil o lunio rhestr fer ac a oedd yn gorfod cael trafodaethau anodd ynghylch enillwyr, gan fod safon y gwaith mor uchel. Diolch i athrawon, rhieni a gwarcheidwaid am feithrin a chefnogi doniau ifanc ym maes gwneud ffilmiau a chyfryngau pobl ifanc.'
Ychwanegodd Ian Morgan, ein Prif Weithredwr: 'Yn ddim gwahanol i flynyddoedd blaenorol, rydym wedi ein syfrdanu gan y safon a'r dalent a ddangosir gan y ceisiadau yng Ngwobrau Delwedd Symudol eleni. Mae'r dalent arbennig a ddangosir yn adlewyrchu'r twf yng nghymwysterau Ffilm a'r Cyfryngau Eduqas ac ni fyddai'n bosibl heb waith caled gwneuthurwyr ffilmiau ifanc a'u hathrawon.'
'Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at y digwyddiad hwn gan ei fod yn arddangosfa mor drawiadol o ba mor dalentog yw'r genhedlaeth iau. Llongyfarchiadau mawr i bob ymgeisydd ar eich cyflawniadau ym maes cynhyrchu ffilm a’r cyfryngau.'
Mae mwy o wybodaeth am y Gwobrau Delwedd Symudol ar gael yma.