9fed Gwobrau Delwedd Symudol - 2023

Cydnabod gwneuthurwyr ffilmiau ifanc addawol yn 9fed seremoni'r Gwobrau Delwedd Symudol.

 

Mae gwneuthurwyr ffilmiau ifanc talentog wedi cael eu cydnabod am eu gwaith eithriadol yn nawfed seremoni flynyddol Gwobrau Delwedd Symudol Eduqas, a gynhaliwyd yn y British Film Institute yn Llundain nos Wener (24 Chwefror).  

 

Mynychodd myfyrwyr, athrawon a rhieni o ysgolion a cholegau ledled y DU y seremoni i ddathlu llwyddiant y cyfarwyddwyr, sgriptwyr ffilmiau a chynhyrchwyr ifanc talentog hynny roedd eu gwaith ar y rhestr fer.  

 

Bob blwyddyn, gwahoddir myfyrwyr sy'n astudio cymwysterau Eduqas mewn Astudiaethau Ffilm ac Astudio’r Cyfryngau i gyflwyno'u gwaith i gael ei ystyried gan banel o feirniaid, gyda gwobrau ar gyfer y Ffilm Orau, y Sgript Ffilm Orau a'r Fideo Cerddoriaeth Gorau. 

 

Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, sydd wedi'u llunio mewn partneriaeth â'r British Film Institute, yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwneuthurwyr a sgriptwyr ffilmiau mwyaf talentog y DU sy'n fyfyrwyr, gan annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant ffilm.  

 

Enillodd Lyndon Hodges, o Ysgol Friesland, Sandiacre, Nottingham, y wobr am y Ffilm Fer Orau a chafodd ei ddewis fel Enillydd Cyffredinol am ei gynnig creadigol o'r enw 'Lefel 9'. Dywedwyd bod yr arswyd ffuglen wyddonol yn ffilm ingol gyda thro naratif lle mae dyn yn cael ei ddal  mewn cylch mewn maes parcio. 

 

 
Gwnaeth y rhyngweithio dwys rhwng iaith ffilm a rheolaeth awdurdodol argraff fawr ar y panel beirniaid. Roedden nhw hefyd yn canmol yr adeiladwaith gwych a'r esthetig cymhellol. 

 

Ar ôl ennill dwy wobr, dywedodd Lyndon: “Mae wedi bod yn ddiwrnod gwerthchweil. Mae wedi bod yn wych gweld fy ffilm yn dod at ei gilydd, o’r broses olygu i’w gwylio o’r diwedd ar y sgrin fawr.”

 

Enillwyr 

Aeth gwobrau eraill i'r canlynol:  

Darn Teledu/Ffilm Gorau

 

Johan Stewart, o Goleg Bradfield, Berkshire, Reading, am ei ddarn teledu/ffilm, Guilt - drama am ddyn ifanc sy'n ceisio ymdopi â marwolaeth ei chwaer. 

Sylwadau'r Beirniaid: "Roedd cysyniad clyfar o dŷ cof a phwnc anodd yn cael ei drin yn sensitif. Mae yma naratif a gweithrediad sy'n cael eu trin yn dda, yn ddiddorol ac wedi'u rheoli'n dda. 

Fideo Cerddoriaeth 

 

Maxime Haydock-Wilson, o Goleg Strode (Windsor Forest Colleges Group), Egham, am ei fideo cerddoriaeth genre rap a luniwyd yn wych i'r gân 'Sun's Out Blacked Out'. Nod y fideo yw grymuso pobl ddu mewn ardaloedd tlawd. 
 
Sylwadau'r beirniaid: "Mae hwn yn fideo cerddoriaeth wedi'i adeiladu'n ardderchog gydag egni go iawn. Mae'n glynu wrth godau a chonfensiynau'r genre rap ac mae'r perfformiadau hyderus wedi'u cydblethu ag eiconograffeg berthnasol sy'n gysylltiedig â materion cymdeithasol diwylliannol. Mae wedi'i ffilmio a'i olygu'n dda ac mae'r cydwefuso yn ardderchog. Mae'r dewis o leoliadau a chynrychiolaeth y gymuned yn nodweddiadol o'r genre a chaiff y personoliaethau eu cyfleu. Mae'r cynnyrch cyffredinol yn hawlio sylw'r gynulleidfa.” 

Sgript Ffilm Orau

 

Cerys Devane, o Goleg Chweched Dosbarth Ashton, Ashton-Under-Lyne, am ei sgript ffilm aeddfed ac uchelgeisiol, Therapy Scene, sy'n dilyn trywydd merch ifanc drwy ganlyniadau ffrae deuluol a arweiniodd at gael ei dileu. 
 
Sylwadau'r Beirniaid: "Mae'r sgript yn cymryd tropes safonol y sefyllfa therapi ond yn delio â nhw mewn ffordd ychydig yn wahanol. Plotio da a defnydd gwych o annerch yn  uniongyrchol i gamera. Mae ymdeimlad mawr o ddatgelu yn araf yn y naratif a oedd yn hynod o dda." 

Un i'w Wylio

 

Freya Baker-Duffin, o Ysgol Finham Park, Coventry, am ei ffilm fer ardderchog, Driven To Despair. Mae'r ffilm yn darlunio merch gydag OCD sy'n cael ei harwain gan ei phroblem iechyd meddwl ac yn glynu'n anhyblyg at sefyllfaoedd mae'n gwybod y gall hi eu rheoli. Mae'r ffilm yn dangos sut mae hi'n ymdrin â'r panig sy’n cael ei achosi gan ei OCD ac yn cyrraedd math o oleuedigaeth. 
 
Sylwadau'r beirniaid: "Ffilm ardderchog gyda thrac sain, golygu, a pherfformiad canolog gwych. Atgofion dwys o ing a goddrychedd, a strwythur clasurol 3-act. Gwaith aruthrol." 

Gellir gweld y fideos buddugol o'r Gwobrau Delwedd Symudol ar ein sianel YouTube

 

Mae'r seremoni wedi'i chydnabod gan athrawon a darlithwyr cyrsiau ffilm a chyfryngau mewn sefydliadau ledled y DU, yn ogystal â ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm. Ymhlith y siaradwyr gwadd eleni oedd Faye Ward, Larushka Ivan-Zadeh, Kate Leys ac Anna Smith.  

 

Dyma sylwadau’r adolygydd ffilm blaenllaw, Anna Smith, ar y gwobrau eleni: “Gwaith llafur projectau yr oedd myfyrwyr wedi ymroi’n llwyr iddyn nhw yw’r ffilmiau rydym ni wedi’u gweld heddiw. Mae gwreiddioldeb yn allweddol – mae’n wych gweld pobl ifanc gyda chymaint o angerdd a brwdfrydedd.”

 

Dywedodd Jenny Stewart, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm Eduqas: "Rydym yn falch iawn o allu gwobrwyo myfyrwyr eleni yn y seremoni Gwobrwyo. Bu'n fraint o'r mwyaf gweithio gyda'n panel anhygoel o gyflwynwyr sydd hefyd yn cydnabod talent y bobl ifanc. Llongyfarchiadau enfawr i bob un o'r enillwyr a'r ymgeiswyr oedd ar y rhestr fer a gafodd ganmoliaeth uchel, a'r athrawon sy'n amlwg wedi gweithio mor galed i gefnogi eu hymdrechion creadigol. 

 

Noddwyd y gwobrau gan y British Film Institute, KK Solutions, a My Company Clothing.  

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Delweddau Symudol, ewch i: www.gwobraudelweddsymudol.co.uk

 

Mae delweddau cydraniad uchel ar gael os gofynnir amdanynt