8fed Gwobrau Delwedd Symudol - 2022

Mae gwneuthurwyr ffilmiau ifanc talentog wedi cael eu cydnabod am eu gwaith eithriadol yn wythfed seremoni flynyddol y Gwobrau Delwedd Symudol.

 

Bob blwyddyn, gwahoddir myfyrwyr sy'n astudio ein cymwysterau mewn Astudiaethau Ffilm ac Astudio’r Cyfryngau i gyflwyno'u gwaith i gael ei ystyried gan banel o feirniaid, gyda gwobrau ar gyfer y Darn Ffilm/Teledu Gorau, y Ffilm Fer Orau, y Sgript Ffilm Orau a'r Fideo Cerddoriaeth Gorau.

 

Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwneuthurwyr a sgriptwyr ffilmiau mwyaf talentog y DU sy'n fyfyrwyr, gan annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant ffilm.

 

Eleni, enillodd Saskia Leigh Martić, o Ashbourne College, Llundain, y wobr am y Ffilm Fer Orau a chafodd ei dewis fel yr Enillydd Cyffredinol am ei chais creadigol o'r enw 'I'll Be Seeing You’. Mae cais Saskia yn portreadu effaith emosiynol y pandemig Coronafeirws a sut roedd yn effeithio ar gysyniadau cysylltu ac ynysu.

 

 

Dyma oedd gan Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm, i’w ddweud am waith yr enillydd:

 

"Credai'r panel beirniadu fod y cais hwn yn 'rhagorol' -mae'r darn yn arbrofol a ffasiynol, gyda defnydd o samplu deunydd archif yn greadigol ac estheteg fodernaidd nodedig. Mae'n archwilio ffordd o deimlo sy'n gyfarwydd iawn gyda gwreiddioldeb a chymhlethdod emosiynol."

 

Ar ôl ennill dwy wobr, dywedodd Saskia:



"Rwyf i wastad wedi bod â diddordeb mewn dadansoddi ffilmiau a'u hystyr mewn darnau, a dyna pam mae'r ffilm hwn mor ddarniog. Ym mhob saethiad, rwyf wir wedi ceisio meddwl am bob manylyn unigol sy'n rhan ohono, o ran ei ystyr. Dyna rwyf innau'n chwilio amdano wrth wylio ffilmiau – sut gellir dehongli hwn?

 

Dim ond o fy safbwynt personol i y gallwn i bortreadu'r rhan dywyllaf o'r cwarantin oherwydd roeddwn i ar fy mhen fy hun bach. A cheisiais chwarae ar hyn – does gennych chi ddim cast mewn cwarantin. Rydych chi wedi'ch llethu gan eich teimladau eich hun ac yn aml gall deimlo fel bod llawer o bobl eraill yno gyda chi, yn brwydro yn eich erbyn, ond dim ond chi sydd yno."

 

Enillwyr

Aeth gwobrau eraill i'r canlynol:

Darn Teledu/Ffilm Gorau
Nia Greenwood, o Goleg Dewi Sant Caerdydd, am ei Darn Teledu/Ffilm, Babylon, sy'n canolbwyntio ar fam ifanc, yn y gobaith o gael noson dda o gwsg, sy'n penderfynu rhoi cynnig ar fformiwla newydd i fabanod sy'n honni ei fod yn helpu babanod i gysgu trwy'r nos yn gynt.


Sylwadau'r beirniaid: "Darn gwych o waith. Mae pob eiliad yn cyfrif yn yr animeiddiad stop-symudiad hwn sy'n dangos y gallu i dalu sylw i'r manylion. Mae wedi'i amseru'n berffaith i gyfleu'n glir, a delweddau a sain cwbl gydamseredig - mae'r defnydd o sain yn ardderchog. Mae mynegolrwydd y cymeriadau wedi'u hanimeiddio yn drawiadol. Mae'n cymhwyso confensiynau animeiddio yn hyderus, ac yn cael ei lywio gan waith arall (e.e., Ardman), ond mae'r darn yn wreiddiol ac yn drawiadol. Mae'r cwpan yn cwympo wedi'i amseru'n berffaith, gan adlewyrchu gallu hyderus i gyfosod trosiadau arswyd ag adegau doniol iawn. Roedd y gynulleidfa ar y diwedd yn awyddus i wybod beth sy'n digwydd nesaf!”

Fideo Cerddoriaeth Gorau
Maya Parry-Jones, o Brighton Hove and Sussex Sixth Form College, Dwyrain Sussex, am ei fideo cerddoriaeth arddull hip-hop celfydd i'r gân Main Squeeze gan Braille. Mae'r fideo'n mynd ar drywydd artist hip-hop sy'n cael ei ddal yn bod yn anffyddlon i'w bartner.

Sylwadau'r beirniaid: "Perfformiadau cwbl gredadwy. Lluniwyd yr artistiaid yn dda a dangoswyd ymwybyddiaeth o godau a chonfensiynau'r genre hwn. Mae'r ffilmio wedi'i reoli'n dda a'r golygu wedi'i dorri'n effeithiol i'r curiad a chydwefuso ardderchog. Defnydd gwych o leoliadau ac eiconograffeg a chyflymder da wedi'i gynnal drwy'r fideo.”
Sgript Ffilm Orau
Sandra Mosnegutu, o Wyggeston and Queen Elizabeth I College, am ei sgript ffilm uchelgeisiol Illusion, sy'n mynd ar drywydd y prif gymeriad, Zhen, wrth iddo gerdded o amgylch ei fflat yn profi cythrwfl o emosiynau wrth iddo ddwyn atgofion am ei berthynas â'i gariad, sydd bellach wedi marw.

Sylwadau'r beirniaid: "Mae defnydd ardderchog o mise-en-scene drwy'r sgript sydd byth yn gwyro i fod yn rhyddieithol. Caiff technegau fel troslais ac ôl-fflachiau eu defnyddio mewn ffyrdd gwych. Prif gryfder y ffilm hon yw sefydlu perthynas gredadwy. Mae'r cyfarwyddiadau'n llifo’n anhygoel, ac mae pob golygfa unigol wedi'i llunio'n dda ac yn cysylltu'n berffaith i'r hyn sy'n dilyn. Mae'r ddeialog yn siarp ac yn gweithio'n dda o fewn y lleoliadau sydd braidd yn ddigymeriad. Caiff motiffau eu defnyddio'n dda iawn. Mae uchelgais a chymhlethdod gwirioneddol i'w cael yma. Mae'r tro yn y gynffon wedi'i ragfynegi mewn ffordd wych gydag athroniaeth 'dangos nid dweud' amlwg iawn. Mae ymdeimlad pendant o Wong Kai-Wai yma yn strwythur y ffilm. Cyflymder gwych sy'n hollol briodol i ffilm fer. Mae'r amwysedd ar y diwedd yn hynod effeithiol hefyd. Darn aeddfed."
Un i'w Wylio
Ben Titmuss, o Akeley Wood Senior School yn Buckingham, am ei fideo cerddoriaeth, Stereo In My Room.

Sylwadau'r beirniaid: "Fideo wedi'i lunio'n dda iawn sydd wir yn adlewyrchu'r dewis o drac gwreiddiol. Perfformiadau creadigol ac artistig ardderchog gydag ymdeimlad o enigma wedi'i greu. Lluniwyd y naratif yn dda gan ymgorffori trin amser a gofod. Mae ffilmio a golygu ardderchog yn creu ymdeimlad swrrealaidd."

Gellir gweld y fideos buddugol ar ein sianel YouTube.


Siaradwr gwadd

 

Mae'r seremoni wedi'i chydnabod gan athrawon a darlithwyr cyrsiau ffilm a chyfryngau mewn sefydliadau ledled y DU, yn ogystal â ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm. Eleni, roedd gennym restr wych o siaradwyr, gan gynnwys Kim Longinotto, Larushka Ivan-Zadeh, Kate Leys, ac Anna Smith.

 

Dyma oedd gan Larushka Ivan-Zadeh, Prif Feirniad Ffilm Metro, i'w ddweud am y gwobrau eleni:



"Y peth gwych am ddigwyddiad fel hwn yw'r amrywiaeth anhygoel sydd i'w gweld. Mae'r holl genres gwahanol hyn i'w cael. Pobl sy'n gwneud ffilmiau arbrofol iawn, yn cynhyrchu fideos cerddoriaeth, a phobl sy'n gweithio gyda phlastisin! Rydych chi'n gweld cymaint o bethau gwahanol, mae'n arddangosfa ryfeddol. Ar ben hynny, cafodd y ffilmiau hyn eu creu yn ystod y pandemig, ac rydych chi'n meddwl, bobol bach, roedd y myfyrwyr hyn yn syllu ar bedair wal ac maen nhw wedi gallu taro ar greadigrwydd cwbl anhygoel!'

 

Dywedodd Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC Eduqas:



"Rydym yn hynod o falch o allu gwobrwyo myfyrwyr eleni mewn seremoni wobrwyo wyneb yn wyneb arbennig – ein seremoni gyntaf ers dwy flynedd oherwydd y pandemig. Rydym wrth ein boddau'n cael y cyfle i arddangos y gwaith gan bobl ifanc mor dalentog ar ôl cyfnod mor anodd. Bu'n fraint o'r mwyaf gweithio gyda'n panel anhygoel o gyflwynwyr sydd hefyd yn cydnabod pa mor anodd y bu'r cyfnod hwn i'n pobl ifanc. Llongyfarchiadau enfawr i bob un o'r enillwyr a'r ymgeiswyr oedd ar y rhestr fer a gafodd ganmoliaeth uchel, a'r athrawon sy'n amlwg wedi gweithio mor galed i gefnogi eu hymdrechion creadigol dan yr amgylchiadau digynsail.

 

Noddwyr

Hoffem ddiolch i'n noddwyr y British Film InstituteGolley SlaterKK Solutions, a My Company Clothing am eu cefnogaeth barhaus.