Cydnabod darpar wneuthurwyr ffilmiau ifanc yn 6ed seremoni'r Gwobrau Delwedd Symudol

Mae gwneuthurwyr ffilmiau ifanc talentog wedi cael eu cydnabod am eu gwaith eithriadol yn chweched seremoni flynyddol Gwobrau Delwedd Symudol CBAC Eduqas, a gynhaliwyd yn y British Film Institute yn Llundain.  

 

Mynychodd myfyrwyr, athrawon a rhieni o ysgolion a cholegau ledled y DU y seremoni i ddathlu llwyddiant y cyfarwyddwyr, sgriptwyr ffilmiau a chynhyrchwyr ifanc talentog hynny roedd eu gwaith ar y rhestr fer.  

 

Bob blwyddyn, gwahoddir myfyrwyr sy'n astudio cymwysterau CBAC Eduqas mewn Astudiaethau Ffilm ac Astudio’r Cyfryngau i gyflwyno'u gwaith i gael ei ystyried gan banel o feirniaid, gyda gwobrau ar gyfer y Ffilm Orau, y Sgript Ffilm Orau a'r Fideo Cerddoriaeth Gorau. 

 

Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, sydd wedi'u llunio mewn partneriaeth â'r British Film Institute, yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwneuthurwyr a sgriptwyr ffilmiau mwyaf talentog y DU sy’n fyfyrwyr, gan annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant ffilm.  

 

Enillodd Jasmine Nugent, 18 oed, o Wales High School yn Sheffield, y wobr am y Darn o Ffilm neu Deledu Gorau, a chafodd ei dewis fel yr Enillydd Cyffredinol am ei darn o ddrama drosedd gwefreiddiol, The Ice Knife. Wrth ddewis yr enillydd teilwng hwn, gwnaeth ein panel beirniadu ganmol y darn fel syniad hynod wreiddiol gyda chysyniad clir iawn a strwythur naratif cydlynol a oedd yn dangos cymeriadaeth wych o brif gymeriadau'r ditectifs ac yn gadael ein beirniaid yn gofyn am gael gweld mwy ar ôl y glodrestr. 

 

Ar ôl ennill dwy wobr dywedodd Jasmine: “Cefais fy magu yn gwylio Columbo, y gyfres deledu Americanaidd gyda Peter Falk, felly mae'r cymeriad sy'n bwyta drwy gydol ei olygfeydd wedi'i ysbrydoli'n llwyr ganddo ef. Dwi wrth fy modd â dirgelion llofruddiaeth eraill fel Sherlock Holmes hefyd, felly cafodd The Ice Knife ei ysbrydoli gan hynny.”  

 

Enillwyr Aeth gwobrau eraill i:  

 

Sgript Ffilm Orau 

  • Britany Smith, o The Holgate Academy yn Nottingham am ei sgript, Lost in Fantasy, a oedd wedi'i strwythuro mewn modd medrus ac a oedd yn gyson ddyfeisgar. Dywedodd ein panel beirniadu ei fod yn 'llawenydd pur i'w ddarllen gyda diweddglo wedi'i gyflawni'n wych.' 

Fideo Cerddoriaeth Gorau 

  • Callum Broomhead, o Saffron Walden County High School yn Saffron Walden am ei fideo cerddoriaeth, The Great Escape. Darn uchelgeisiol wedi'i wneud yn dda, gan ddefnyddio sinematograffeg du a gwyn atgofus i greu naratif enigmatig.

Ffilm Fer Orau 

  • Imogen Waite, o Heworth Grange School yn Tyne & Wear am ei ffilm fer, Heads or Tails, 'rom com' meddylgar wedi'i saethu'n dda gyda pherfformiadau gwych a naratif unigryw.

Un i'w Gwylio 

  • Nell Jaques o Goleg Chweched Dosbarth Farnborough yn Farnborough am ei ffilm gyffrous fer, Daphne, sy'n astudiaeth arloesol o gymeriad wedi'i saethu'n dda am 'cougar' mewn oed.

Gellir gweld y fideos buddugol ar ein sianel YouTube.

 

Mae lluniau o'r digwyddiadau ar gael ar ein tudalen Facebook.

 

Siaradwr gwadd

 

Mae'r seremoni wedi'i chydnabod gan athrawon a darlithwyr cyrsiau ffilm a chyfryngau mewn sefydliadau ledled y DU, yn ogystal â ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm. Y seren eleni oedd Guy Bishop, rheolwr lleoliad blaenllaw sydd wedi gweithio ar sawl ffilm fawr, yn cynnwys Fantastic Beasts: The Crimes of Grindelwald a Maleficent: Mistress of Evil. Nid dim ond cyflwyno gwobr a wnaeth Guy, ond cymryd rhan hefyd mewn panel Dosbarth Meistr Ffilmiau, gan gynnig cyngor gwerthfawr i wneuthurwyr ffilmiau'r dyfodol:  

 

“Mae digwyddiadau o’r math hwn yn hynod o bwysig. Dwi'n credu ei fod yn rhoi gobaith i'r myfyrwyr sydd megis dechrau yn y diwydiant ac yn rhoi syniad iddyn nhw o sut gallai fod. Mae'n gyfle i brofi ambell ran o'r diwydiant.” 



Dywedodd Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC Eduqas: “Bob blwyddyn, rydyn ni’n rhyfeddu at safon uchel y creadigrwydd a'r dalent, ac nid oedd eleni'n eithriad i hynny. Cawsom dros 400 o gynigion o 150 o ganolfannau ledled y DU ac roedd dewis dim ond un enillydd o bob categori yn anhygoel o anodd i'r beirniaid. Mae'n hynod gyffrous cael y cyfle i arddangos a gwobrwyo gwaith gan bobl ifanc mor dalentog sydd â'r potensial i gyflawni pethau mawr yn y diwydiant ffilm a thu hwnt."

 

Noddwyr

 

Hoffem ddiolch i'n noddwyr, British Film InstituteGolley SlaterBwydydd Castell HowellIlluminate PublishingKK Solutions, a My Company Clothing am eu cefnogaeth barhaus. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Delweddau Symudol, ewch i: https://www.gwobraudelweddsymudol.co.uk/