Pumed seremoni'r Gwobrau Delwedd Symudol yn cydnabod y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau ifanc

Mae gwneuthurwyr ffilmiau ifanc talentog wedi cael eu cydnabod am eu gwaith eithriadol am y pumed tro yn seremoni flynyddol Gwobrau Delwedd Symudol CBAC Eduqas a gynhaliwyd yn y British Film Institute yn Llundain.

 

Daeth myfyrwyr, athrawon a rhieni o ysgolion a cholegau ar draws y DU i'r seremoni i ddathlu llwyddiant cyfarwyddwyr, sgriptwyr a chynhyrchwyr ifanc talentog yr oedd â'u gwaith ar y rhestr fer.

 

Bob blwyddyn, gwahoddir myfyrwyr sy'n astudio cymwysterau CBAC Eduqas mewn Astudiaethau Ffilm ac Astudio’r Cyfryngau i gyflwyno'u gwaith i gael ei ystyried gan banel o feirniaid, ar gyfer gwobrau yn cynnwys y Ffilm Orau, y Sgript Orau a'r Fideo Cerddoriaeth Gorau.

 

Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, sydd wedi'u cyflwyno mewn partneriaeth â'r British Film Institute, yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r gwneuthurwyr a sgriptwyr ffilmiau mwyaf talentog yn y DU sy'n fyfyrwyr, gan annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant ffilm.

 

Enillodd Charlotte Eglinton, 19, o goleg chweched dosbarth Ashbourne yn Llundain, y wobr am y Ffilm Fer Orau a chafodd ei dewis fel y prif enillydd am ei drama animeiddio anhygoel, 8, sy'n adrodd hanes dau frawd a'u clymau teuluol i'r maffia.

 

Ar ôl ennill dwy wobr, dywedodd Charlotte: "Dwi wrth fy modd fy mod i wedi ennill. Cafodd y ddrama animeiddio, 8, ei hysbrydoli gan fy nghariad at 'anime' a 'steampunk'. Cymerodd dros 3 mis i mi ei chreu, drwy wneud darluniadau ar dabled graffig, a oedd yn fy ngalluogi i i ddatblygu'r estheteg unigryw. Roedd yn anhygoel gweld fy ngwaith ar y sgrin fawr, o ystyried mai dim ond syniad oedd hwn 18 mis yn ôl. Mae ennill y wobr hon wedi fy ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn ffilm."

 

YR ENNILLWYR

 

Prif Enillydd ac Enillydd Categori Ffilm Fer Orau

  • Charlotte Eglinton, 19, o goleg chweched dosbarth Ashbourne yn Llundain gyda'i drama animeiddio '8'. Gwylio '8'

 

Y Darn Ffilm Gorau

  • Sebastian Wright, o ysgol Cotham ym Mryste. Roedd ei animeiddiad stop-symudiad, Silva, a wnaed o'i ystafell wely wedi'i throi'n stiwdio animeiddio, yn dangos lefelau syfrdanol o fanylder mewn darn atmosfferig anhygoel.

Gwylio 'Silva'

 

Fideo Cerddoriaeth Gorau

  • Rhiannon Lewis-Brooke, Cerys Glynn Ramsden ac Oben Atamturk o ysgol Stoke Newington yn Llundain am eu fideo cerddoriaeth, Serial Killer. Mae eu fideo cerddoriaeth perffaith yn archwilio effaith ddinistriol cariad unochrog.

Gwylio 'Serial Killer'

 

Sgript Ffilm orau

  • Marshall Coltart o The Holgate Academy yn Nottingham am ei ddrama uchelgeisiol The Bell Ringer. Gwnaeth y beirniaid ganmol y darn effeithiol hwn o waith am greu lle, cymeriad a sefyllfa mewn modd sensitif a'i ddiweddglo gwirioneddol deimladwy.

 

Y Darn Teledu Gorau

  • Liam Blackwell o Wales High School yn Sheffield am The Real Slim Lady – drama heddlu cnoi ewinedd a chomedi dywyll sy'n cynnwys ymchwilio i lofruddiaeth menyw ifanc.

Gwylio 'The Real Slim Lady

 

Ymgeisydd Gorau Dan 16 Oed

  • Isabel Clennell a Niamh Cutler o Finham Park yn Coventry. Mae eu ffilm arddull Black Mirror, sef Removed, yn portreadu ymgais merch fewnblyg yn ei harddegau i ddod â ffrind a ddilëwyd o gof pawb heblaw am ei chof hi, yn ôl.

Gwylio 'Removed'

 

Gellir gwylio pob fideo buddugol ar ein sianel YouTube

SIARADWR GWADD

 

Mae'r seremoni wedi cael cydnabyddiaeth gan athrawon a darlithwyr cyrsiau ffilm a’r cyfryngau mewn sefydliadau ledled y DU, yn ogystal â ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm. Matt Charman, yr awdur gwobrwyol o Brydain a enwebwyd am Oscar, oedd y seren eleni, a chyflwynodd wobr yn ogystal â chynnal dosbarth meistr mewn ysgrifennu sgriptiau i'r gwesteion. Rhoddodd y cyngor hwn i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau ifanc:

"Mae'n farathon; rhaid i chi fod yn amyneddgar a chymryd eich amser. Os nad yw rhywun wedi llwyddo erbyn ei fod yn 22 oed, mae pobl yn meddwl ei bod hi ar ben. Mewn gwirionedd, i lawer o'r bobl yr ydyn ni'n eu parchu – nofelwyr, awduron, beirdd – yn aml, mae canfod y foment honno a thorri drwodd yn digwydd yn llawer hwyrach yn eu bywydau. Cadw i fynd yw'r peth anoddaf i unrhyw un."

Meddai Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC Eduqas: “Bob blwyddyn, rydyn ni'n rhyfeddu at y safon uchel o greadigrwydd a thalent, a doedd eleni ddim yn eithriad. Cafodd dros 400 o geisiadau eu derbyn gan 150 o ganolfannau ledled y DU ac roedd y beirniaid yn ei chael hi'n anhygoel o anodd dewis un enillydd o bob categori. Mae'n hynod gyffrous i gael y cyfle i arddangos a gwobrwyo gwaith gan bobl ifanc mor dalentog y mae ganddynt y potensial i gyflawni pethau mawr o fewn y diwydiant ffilm a thu hwnt."

NODDWYR

 

Hoffem ddiolch i'n noddwyr, British Film InstituteGolley SlaterBwydydd Castell HowellIlluminate PublishingKK Solutions, a My Company Clothing am eu cefnogaeth barhaus.

 

Am wybodaeth bellach am y gwobrau, ewch i wefan Gwobrau Delwedd Symudol.