- Gwobrau 2024
- Gwobrau 2024
- Gwobrau 2023
- Gwobrau 2024
- Gwobrau 2023
- Gwobrau 2022
- Gwobrau 2024
- Gwobrau 2023
- Gwobrau 2022
- Gwobrau 2021
- Gwobrau 2024
- Gwobrau 2023
- Gwobrau 2022
- Gwobrau 2021
- Gwobrau 2019
- Gwobrau 2024
- Gwobrau 2023
- Gwobrau 2022
- Gwobrau 2021
- Gwobrau 2019
- Gwobrau 2018
- Gwobrau 2024
- Gwobrau 2023
- Gwobrau 2022
- Gwobrau 2021
- Gwobrau 2019
- Gwobrau 2018
- - Gwobrau 2017
- Gwobrau 2024
- Gwobrau 2023
- Gwobrau 2022
- Gwobrau 2021
- Gwobrau 2019
- Gwobrau 2018
- - Gwobrau 2017
- Gwobrau 2016
- Gwobrau 2024
- Gwobrau 2023
- Gwobrau 2022
- Gwobrau 2021
- Gwobrau 2019
- Gwobrau 2018
- - Gwobrau 2017
- Gwobrau 2016
- Gwobrau 2015
Mae gwneuthurwyr ffilmiau ifanc dawnus wedi cael eu cydnabod am eu gwaith rhagorol yn y Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol a gynhaliwyd, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, yn Sefydliad Ffilm Prydain yn Llundain.
Roedd myfyrwyr, athrawon a rhieni o ysgolion a cholegau ledled y DU yn bresennol yn y seremoni i ddathlu llwyddiant cyfarwyddwyr, sgriptwyr a chynhyrchwyr ifanc a gyrhaeddodd y rhestr fer.
Enillodd Elliot Collier, 18 mlwydd oed, o Goleg Newcastle-Under-Lyme swydd Stafford, y wobr am y ffilm fer orau a dewiswyd Elliott hefyd yn enillydd cyffredinol ar gyfer ei ffilm ddrama ddirgel, 'The Last Reel', sy'n dweud stori emosiynol dyn yn edrych yn ôl dros ei fywyd.
Dywedodd Elliot: "Yr wyf yn dal mewn sioc fy mod i wedi ennill! Roedd yn annisgwyl mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd rwy'n astudio Teledu a Radio ym Mhrifysgol Salford ac yn gobeithio mynd i'r byd teledu a ffilm, mae'n rhywbeth yr wyf yn credu'n gryf ynddo. Mae'r gystadleuaeth hon wedi rhoi hwb i mi i ddal ati. Mwynheais Astudiaethau Ffilm yn y coleg gymaint, a chredaf fod gwylio'r holl ffilmiau gwahanol hyn wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi wneud rhywbeth fy hun. Mae'r syniad o allu i edrych ar rywbeth ar sgrin fawr gan feddwl, 'waw, fi wnaeth hwnna!' yn gyffrous iawn."
Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, sydd wedi'u trefnu mewn partneriaeth â Sefydliad Ffilm Prydain, yn cydnabod ac yn gwobrwyo sgriptwyr a gwneuthurwyr ffilmiau, gan annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant ffilm.
Bob blwyddyn, mae disgyblion sy'n dilyn cymwysterau Astudio'r Cyfryngau ac Astudiaethau Ffilm CBAC Eduqas yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu gwaith i'w ystyried gan banel o feirniaid. Mae gwobrau am y ffilm fer orau, y detholiad teledu gorau, y detholiad ffilm gorau, y fideo cerddoriaeth orau, y sgript ffilm orau ac enillydd cyffredinol.
Aeth gwobrau eraill i Ella Simpson o Sheffield am ddetholiad teledu Scarlet's Vow, Georgia Sullivan o Farnborough am ei darn Everybody Loves Lauren, Keisha Walters a Lauren Taylor o Lundain am eu fideo cerddoriaeth Us Against Them ac Elijah Stratford o Grimsby am ei sgript Hydro.
Mae'r seremoni wedi ennill cydnabyddiaeth gan athrawon a darlithwyr cyrsiau ffilm a'r cyfryngau mewn sefydliadau ar draws y DU, yn ogystal â ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm. Siaradwr gwadd eleni oedd Kate Leys, Golygydd sgriptiau sydd wedi gweithio ar Slow West, Lady Macbeth a Churchill.
Dywedodd Kate: "Roedd y straeon a welwyd heddiw yn eithriadol. Roedd amrywiaeth enfawr o dalent yma heddiw. Roedd y ffilmiau yn ddoniol, yn frawychus, rhyfedd, gothig, popeth y gellir ei ddychmygu, ond yr ansawdd wnaeth yr argraff fwyaf arnaf. Dyma'r gwahaniaeth rwy'n credu rhwng y bobl ifanc a'r rheini sy'n wneuthurwyr ffilmiau hŷn; efallai eu bod yn dal yn ôl o bosibl, oherwydd ofn neu gywilydd. Aeth y bobl ifanc amdani, ac mewn gwirionedd dyna beth sy'n gweithio."
Dywedodd Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC : "Bob blwyddyn rydym ni'n cael ein syfrdanu gan safon uchel y gwaith sy'n cael ei gyflwyno, a doedd eleni ddim yn eithriad. Cawsom dros 400 o enwebiadau o 150 o ganolfannau ledled y DU ac roedd beirniadu'r gwaith yn anodd iawn gan ystyried bod rhaid dewis dim ond un enillydd o bob categori. Mae'n hynod gyffrous cael y cyfle i arddangos a gwobrwyo gwaith gan bobl ifanc dawnus sydd â photensial i gyflawni pethau mawr o fewn y diwydiant ffilm a thu hwnt.
"Roedd gwaith Elliot yn sefyll allan ar unwaith fel syniad creadigol a gwreiddiol iawn. Gwnaeth The Last Reel argraff fawr ar bob aelod o'r panel beirniadu a chanmolwyd Elliot am sensitifrwydd y darn hwn."