Cydnabod darpar wneuthurwyr ffilmiau ifanc yn 3ydd seremoni'r Gwobrau Delwedd Symudol

Cynhaliwyd Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol am y drydedd flwyddyn yn olynol yn adeilad y Sefydliad Ffilm Prydeinig, Southbank Llundain ddydd Gwener 13 Ionawr i ddathlu gwaith rhai o wneuthurwyr ffilm ifanc disgleiriaf y DU.

 

CYFARWYDDWR GWADD

 

Cyflwynodd ein gwestai arbennig y gyfarwyddwraig, awdur ac actores Alice Lowe ddosbarth Meistr Gwneuthurwyr Ffilmiau i gynulleidfa yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r wlad. Dechreuodd Alice ei gyrfa fel sgriptwraig gyda'i gwaith arobryn, o'r enw 'Sightseers' yn 2012, yn ogystal ag ymddangos mewn cynyrchiadau ffilm a theledu gan gynnwys 'Locke'(2013), 'Hot Fuzz' (2007) a 'The Mighty Boosh' (2007).

 

Iyare Igiehon, cyn gyflwynydd BBC6 Music a chyfrannwr cyson ar 'Fighting Talk' BBC 5Live oedd yn ymuno ag Alice. Igiehon hefyd yw sylfaenydd y fenter S.O.U.L. (Screening Our Unseen Lives) sydd yn eiriolwr ar gyfer lleisiau amrywiol ffilm a rhaglenni teledu Prydeinig.

 

BEIRNIAID FFILM

 

Yn ymuno ag Iyare hefyd oedd dau gyflwynydd gwadd, y beirniaid ffilm a'r darlledwyr Larushka Ivan-Zadeh ac Anna Smith.

 

Mae Larushka yn newyddiadurwr a darlledwr profiadol, ac mae'n Olygydd Ffilm gyda'r papur Metro ers 2006. Cyflwynodd y wobr am y Detholiad Teledu Gorau.

 

Mae Anna Smith yn cyfrannu at The Guardian, Sight & Sound, Time Out, Metro, ELLE, Empire, The Hollywood Reporter a llawer mwy. Mae hi'n ymddangos yn rheolaidd ar The Film Review (BBC News TV) yn adolygu ffilmiau, Sky News a Radio'r BBC. Fel cyn-olygydd cylchgrawn mae Anna wedi treulio dros ddegawd yn arbenigo mewn ffilm a bu'n is-gadeirydd y 'London Film Critics’ Circle' ers 2009. Cyflwynodd Anna'r wobr am y Detholiad Ffilm Gorau.

 

Cyflwynodd Larushka ac Anna sgwrs ryngweithiol ar ffyrdd o gychwyn yn y maes Newyddiaduraeth Ffilm.

 

ENILLWYR

 

Roedd y beirniaid wedi eu rhyfeddu ag ansawdd gwaith y newydd-ddyfodiaid a pha mor anodd oedd dewis enillydd ym mhob un o'r chwe chategori. Fodd bynnag y rhai a ddaeth i'r brig yn y gwobrau delweddau symudol 2016 yw:

Ffilm Fer Orau
Cloud, James Harvey, The Sixth Form College, Farnborough
Detholiad Teledu Gorau
Deadline, Charley Gaidoni, Hitchin Girls' School, Hertfordshire

Detholiad Ffilm Gorau

 

Remember Remember, Francis Cousins & James Hastings, The Sixth Form College, Farnborough

Fideo Cerddoriaeth Gorau

 

Tame Impala: Elephant, Chloe Falcon, St David's Catholic Sixth Form College, Cardiff

Cyflwyniad Gorau 16 neu iau

 

Paper People, Jack Brazil (Short Film), Finham Park School, Coventry

Enillydd Cyffredinol 2016

 

Cloud, James Harvey, The Sixth Form College, Farnborough

Dywedodd Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc astudiaethau ffilm CBAC: "Roedd safon y gwaith a gyflwynwyd eleni yn arbennig o uchel. Roeddem yn falch iawn o arddangos gwaith rhai o wneuthurwyr ifanc mwyaf cyffrous y wlad a fydd heb unrhyw amheuaeth yn chwarae rôl sylweddol wrth lunio dyfodol ffilm."

 

Hoffai CBAC ymestyn ein gwerthfawrogiad i noddwyr y digwyddiad gan gynnwys y British Film InstituteGolley SlaterBrecon CarregCastell Howell FoodsIlluminate PublishingKK SolutionsUprise PrintYoung Film AcademySchools Mailing and My Company Clothing.