
Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, a gynlluniwyd mewn partneriaeth â'r Sefydliad Ffilm Prydain, yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwneuthurwyr ffilmiau ifanc mwyaf talentog y Deyras Unedig.
Bob blwyddyn, bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau Ffilm a'r Cyfryngau CBAC yn derbyn gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i'w ystyried gan ein panel o feirniaid. Mae'r seremoni wedi ennyn cefnogaeth a darlithoedd mewn cyrsiau ffilm a chyfryngau mewn amrywiaeth o sefydliadau, yn ogystal â gan ffigurau blaenllaw yn y diwydiant ffilm.

Fel y prif ddarparwr Safon Uwch a TGAU Astudiaethau Ffilm, ac un o’r prif ddarparwyr Safon Uwch a TGAU Astudio’r Cyfryngau, mae’n destun balchder cael gweithio gyda dros 1,000 o ysgolion a cholegau ar draws Cymru a Lloegr. Mae’n bleser gan CBAC EDUQAS weithio â’r BFI i ddathlu gwaith rhagorol eich dysgwyr.
Jenny Stewart – Swyddog Pwnc
