
Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol yn cydnabod ac yn dathlu'r cynyrchiadau delwedd symudol gorau gan fyfyrwyr sy'n dilyn cymwysterau Ffilm a'r Cyfryngau CBAC ar draws y DU.
Mae'r gwobrau yn gweithredu fel sbardun i wneuthurwyr ffilm talentog er mwyn iddyn nhw sefyll allan wrth gyflwyno cais i fynd i'r brifysgol ac ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Dathlu gwneuthurwyr ffilmiau y dyfodol yng Ngwobrau Delwedd Symudol CBAC
Dathlwyd gwneuthurwyr ffilmiau ifanc addawol yn ein 11eg seremoni Gwobrau Delwedd Symudol flynyddol yn y British Film Institute ar 10 Chwefror 2025.
Daeth myfyrwyr, rhieni ac athrawon balch at ei gilydd ledled y DU i ddathlu gwaith cyfarwyddwyr, sgriptwyr ffilmiau a chynhyrchwyr ifanc, gan gynnwys Thomas Langridge o Ysgol Uwchradd Twyford Church of England yn Llundain a enillodd y Wobr Rheithgor Myfyrwyr, yn ogystal ag ennill yn y categori animeiddio.
Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, a lansiwyd yn 2014 mewn cydweithrediad â'r British Film Institute, yn cydnabod ac yn dathlu cynyrchiadau delwedd symudol gorau myfyrwyr sy’n astudio cymwysterau CBAC mewn Ffilm a'r Cyfryngau ar draws y DU.
Ymhlith categorïau 2025 oedd Ffilm Fer, Fideo Cerddoriaeth, Sgript Ffilm, Darn Teledu/Ffilm, Animeiddiad, Un i'w Wylio a Gwobr Rheithgor Myfyrwyr.
Enillodd Thomas Langridge o Ysgol Uwchradd Twyford Church of England yn Llundain y Wobr Rheithgor Myfyrwyr enwog yng ngwobrau eleni, yn ogystal ag ennill yn y categori animeiddio ar gyfer ei ffilm 'The Landlord's Inspection', sy'n dilyn landlord yn arolygu ei wahanol denantiaid, gan dalu teyrnged i Keaton a Hitchcock wrth i ddwy stori sy'n ymddangos yn rai sydd ar wahân gysylltu â'i gilydd.
Sylwadau'r beirniaid: 'Mae The Landlord’s Inspection yn cynnig stori gomig amlhaenog. Gyda lluniad diddorol o gymeriadau a senarios doniol, mae'r gynulleidfa'n mynd ar daith gythryblus trwy floc fflatiau bywiog trwy lygaid ei landlord taer, styfnig. Mae'r ffilm yn defnyddio toreth o dechnegau adrodd stori greadigol ac mae wedi'i weithredu'n wych. Roedd y rheithgor yn teimlo fod y dyluniad gweledol yn ddychmygus, gydag arddull unigryw drawiadol a dealltwriaeth sicr o sut i greu canlyniadau comedi. Mae'n wych. Camp go iawn.'
Yn dilyn ei fuddugoliaeth, dywedodd Thomas: "Rwyf wedi gwir fwynhau'r gwobrau, mae wedi bod yn hyfryd iawn ac yn awyrgylch mor groesawgar a chreadigol. Mae mor wych bod mewn ystafell lle mae pawb â'r un math o feddylfryd, ac yr un mor benderfynol. Mae'r ffaith ein bod ni i gyd yma yn dangos lefel o uchelgais sydd, yn fy marn i, yn ganmoladwy iawn.
"Rwyf mor falch fy mod wedi ennill y gwobrau hyn ac rwyf wedi mwynhau rhwydweithio gyda'r cystadleuwyr eraill. Mae'n llawer o hwyl, yn greadigol iawn ac yn gyrru'r diwydiant ymlaen. Mae'r geiriau hyn yn bwysig; ‘Gyrru'r Diwydiant Ymlaen’."
Enillydd 11eg Gwobrau Delwedd Symudol, Gwobr Rheithgor Myfyrwyr - 'The Landlord's Inspection' gan Thomas Langridge. |
Gellir gweld y fideos buddugol o'r Gwobrau Delwedd Symudol ar ein sianel YouTube.

