Gwobrau Arloesedd 2024

Golwg ar Seremoni Gwobrau Arloesedd 2024 

Mae dyfeiswyr ifanc mwyaf addawol Cymru wedi'u cydnabod am eu syniadau creadigol yn ein Gwobrau Arloesedd blynyddol, a gynhaliwyd am y 24ain tro eleni.  Cynhaliwyd y seremoni yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 12 Rhagfyr, lle cafodd cyflawniadau egin ddyfeiswyr eu dathlu.


Datblygwyd y Gwobrau Arloesedd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a'u nod yw ysbrydoli creadigrwydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gan eu hannog i ailfeddwl dyluniadau confensiynol cynhyrchion a gwasanaethau bob dydd. Yn dilyn ymlaen o'r blynyddoedd blaenorol, roedd y dathliadau, a gynhaliwyd am y 24ain tro, yn arddangos talent creadigol ein pobl ifanc yng Nghymru. Mae'r digwyddiad hefyd yn adlewyrchiad o lwyddiant dyfeiswyr Cymru ac mae'n cydnabod eu cyfraniadau.  

Mae lluniau o'r digwyddiad ar gael i'w gweld yma.

“Mae'r Gwobrau Arloesedd yn ddigwyddiad pwysig yn ein calendr, ac mae’n fraint gallu dathlu doniau ifanc Cymru wrth iddynt barhau ag etifeddiaeth dyfeiswyr Cymru. Unwaith eto, rydym wrth ein boddau gyda safon y ceisiadau eleni, ac mae'n wych gweld y syniadau disglair ac arloesol sydd gan genhedlaeth y dyfodol, yn enwedig y rhai sy'n cymryd agwedd ragweithiol tuag at ddatrys problemau heddiw.” Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC

Enillwyr Gwobrau 2024 

Safon Uwch

1af – Sonny Norman, YGG Bro Edern – ‘Bwrdd Gwyddbwyll i bobl ddall a rhannol ddall' 

2il - Eleri Thomas, Coleg Catholig Dewi Sant – ‘Helmed Cynaliadwy Beic Pecynnu'n Fflat’ 

3ydd – Charley Atwood, YGG Bro Edern – ‘Mat adfywio cardio-pwlmonaidd QuickShield’ 

Lefel UG
1af – Molly Newland, Ysgol Uwchradd Aberteifi – ‘Bwrdd Achub’ 
2il  – Dylan Draper, o Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan Fedyddiwr – 'Golau Tu Allan sy'n Gyfeillgar i'r Amgylchedd’  
3ydd - Chloe Radford, YGG Bro Edern – ‘Cymorth ymarfer addasol ACL ar gyfer Pêl-droedwyr Benywaidd’
TGAU
1af – Fflur Lloyd-Jones, o Ysgol Brynrefail – 'Cymorth Cramp a Spasm ar gyfer Dioddefwyr MND’ 
2il – Charles Owen, Ysgol Llanfyllin – 'Fflôt Gwrth-ddymchwel Awtomataidd' 
3ydd – Deri Mullins, Ysgol Bro Pedr – 'Agorydd Clo Diogelwch Potel Cannydd'
Aeth gwobrau eraill i 

Creadigrwydd Tomos Lang, o Ysgol 3-19 Brenin Harri'r VIII, Y Fenni –  'System Cyfnewid Sbectol Fodiwlaidd’  

Eiddo Deallusol – Joseph Knight, Ysgol Gyfun Brynteg – 'Teclun Troi Tudalen Llawysgrif Cerddoriaeth'  

Gwyddoniaeth –  Rhys Wijeratne, YGG Bro Edern – 'Seinydd Parametrig'

“Rwy’n ddiolchgar iawn mod i wedi ennill y wobr UG a hefyd y Brif Wobr. Roedd pawb wedi creu projectau anhygoel, felly mae hon yn gystadleuaeth anodd iawn i’w hennill. Mae bod yma a chyrraedd y rhestr fer hefyd yn golygu cymaint. Mae ennill hyd yn oed yn fwy o fraint. Hoffwn longyfarch pawb arall wnaeth gyrraedd y rownd derfynol. Rwyf mor falch o ennill a hoffwn ddiolch i’m teulu, fy athrawon a’r ysgol am eu holl gefnogaeth.” Molly Newland, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Enillydd Cyffredinol