Golwg ar seremoni 2023
Mae dyfeiswyr ifanc mwyaf addawol Cymru wedi ennill gwobrau am eu syniadau arloesol yn ein 23ain Gwobrau Arloesedd blynyddol. Cynhaliwyd y seremoni yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 14 Rhagfyr, lle cafodd cyflawniadau egin ddyfeiswyr eu dathlu.
Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, nod ein Gwobrau Arloesedd yw ysbrydoli creadigrwydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gan eu hannog i ailfeddwl dyluniadau confensiynol cynhyrchion a gwasanaethau bob dydd. Ar ôl dychweliad buddugoliaethus yn 2022 yn dilyn bwlch o ddwy flynedd, roedd y 23ain seremoni yn arddangos cyfoeth o syniadau dyfeisgar gan feddyliau ifanc talentog. |
Mae lluniau o'r digwyddiad ar gael i'w gweld yma. |
Cymerwch olwg ar uchafbwyntiau'r diwrnod
Ennillwyr Gwobrau 2023
Safon Uwch |
1af – Sion O’Keeffe, Ysgol Bro Pedr, FretLuminate 2il – Carys Boardman, Ysgol Bryn Elian, Cit Offer Hygyrchedd 3ydd – Tomas Billington, Ysgol Brenin Harri’r VIII Y Fenni, Troli Bwrdd Syrffio |
UG |
1af – Jasmin Jones, Ysgol Uwchradd Dinbych, Gwefrydd Brwsh Dannedd Di-wifr 2il – Sonny Normansel, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Cloch Drws Adborth Haptig i unigolion trwm eu clyw 3ydd – Rhys Wijeratne, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, System Llywio GPS wedi’i Phweru gan Dynamo |
TGAU |
1af – Alys Jones, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Dyfais Lleihau Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) ar Hediadau 2il – Huw Davies, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Help Llaw 3ydd – Nanci Edwards, Ysgol Gyfun Trefynwy, Codi Ymwybyddiaeth o Amddiffyn Cefnforoedd |
Aeth gwobrau eraill i |
Creadigrwydd – Emily Hay, Coleg Dewi Sant, Gêm Fwrdd Rhyfeddodau’r Byd Eiddo Deallusol – Finn Channing Davies, Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Cyfarpar Dringo Crimpio Gwyddoniaeth – Jacob Taylor Chow, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Ailffurfiwr Poteli Plastig |