
Gyda phrofiad o 15 mlynedd a mwy mewn datblygu a darparu e-asesiadau, ni yw'r prif gorff dyfarnu o ran darparu asesiadau digidol ar gyfer cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.
Darganfyddwch fanteision e-asesu gyda CBAC a pham y gallai fod yn brofiad cadarnhaol i chi a'ch dysgwyr.
Cefnogi ein hysgolion a'n colegau
Er mwyn sicrhau bod ein hysgolion a'n colegau yn gallu cyflwyno'r dull asesu hwn yn hyderus, mae gennym dîm e-asesu pwrpasol sy'n cynnig cefnogaeth o'r dechrau i'r diwedd, o osod meddalwedd i weinyddu'r e-asesiad terfynol.
Mae ein tîm cyfeillgar a phroffesiynol ar gael i gynnig arweiniad cynhwysfawr i chi er mwyn sicrhau y gallwch gyflwyno ein hasesiadau yn rhwydd. Cysylltwch â'n tîm heddiw ar e-asesu@cbac.co.uk neu 029 2026 5328.