Darparu canlyniadau Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol yn 2024 a thu hwnt

Cyhoeddodd Ofqual ganllawiau i'r holl gyrff dyfarnu sy'n cynnig dyfarniadau galwedigaethol a thechnegol ar sut i weithredu o ran darparu canlyniadau'n amserol yn y flwyddyn academaidd hon ac wedi hynny.  

 

Gwiriadau yn ystod y Tymor

 

Gallwn gadarnhau y byddwn yn cynnal gwiriadau yn ystod y tymor cyn i'r brif gyfres arholiadau gychwyn ym mis Mai. Bwriad y gwiriadau hyn yw sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau pan fo'u hangen arnyn nhw. Bydd y trefniadau hyn yn berthnasol i Gymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol ar Lefel 3, Lefel 1/2 a Lefel 2 a ddefnyddir ar gyfer dilyniant. 

  

Gweler y llinellau amser isod:

 

Er mwyn sicrhau bod y gwiriad hwn ar gofrestriadau'n digwydd yn hwylus, byddwn yn gwneud hyn: 

  • Rhannu gwybodaeth am gyfnewid cymwysterau â'r canolfannau-
  • Prosesu unrhyw newidiadau yn ôl y galw
  • Gofyn am ddatganiad gan Bennaeth y Ganolfan i gadarnhau cofrestriadau

 

Byddwn ni hefyd yn cadarnhau'r canlynol: 

  • Bod canolfannau wedi cyflwyno deilliannau ymgeiswyr ar gyfer pob ymgeisydd a gofrestrwyd
  • Bod y gwaith a uwchlwythwd gan ganolfannau i'w gymedroli yn cydymffurfio â'r sampl a gynhyrchwyd gennym
  • Os bydd angen, bod y canolfannau wedi uwchlwytho samplau pellach neu ychwanegol

 

Datganiadau canolfannau

 

Byddwn yn gofyn am sicrwydd gan yr holl ganolfannau eu bod wedi cyflwyno cofrestriadau cywir ar gyfer pob myfyriwr sy'n disgwyl derbyn canlyniad.  Noder os gwelwch yn dda y gallai methiant i fodloni'r gwiriadau a'r terfynau amser yn ystod y tymor effeithio'n andwyol ar ganlyniad ymgeisydd.

 

Oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi? 

  • Mae mwy o wybodaeth ar ddyddiadau cofrestru a therfynau amser i'w gweld yma
  • Dylech chi sicrhau hefyd eich bod yn dilyn yr holl weithdrefnau cyflwyno asesiadau mewnol gan ddilyn yr amlinelliad hwn

 

Deallwn faint o waith y mae angen ei gyflawni i sicrhau bod canlyniadau amserol wedi'u darparu ar gyfer myfyrwyr y Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol ac rydym yn gwerthfawrogi eich ymrwymiad a chefnogaeth barhaus. 

 

Mae ein tîm ni'n parhau i fod wrth law i'ch helpu chi wrth i chi gynllunio a pharatoi at y flwyddyn i ddod. Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o gyngor neu arweiniad.