Cymerwch ran

Ymunwch â'n tîm Datblygu Cymwysterau  

 

Rydym yn recriwtio tîm o arbenigwyr pwnc arloesol i weithio gyda ni ar ddatblygu cyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol i ddysgwyr 14-16 mlwydd oed yn rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. Dyma eich cyfle i sicrhau bod y cymwysterau newydd yn gynhwysol, yn ddiddorol, yn ategu'r cwricwlwm, ac yn addas ar gyfer y dyfodol. 

Ymunwch â'n Grŵp Cynghori 

 

Ydych chi am gydweithio'n agos â CBAC i gyd-awduro cyfres o Gymwysterau Cenedlaethol I ddysgwyr 14-16 mlwydd oed yn rhan o'r Cwricwlwm i Gymru? Rydym yn sefydlu Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau ar gyfer pob cymhwyster, ac rydym yn chwilio am aelodau i’n cynghori, ein hysbysu a’n herio wrth i ni symud drwy’r broses datblygu cymwysterau.