Beth am helpu i lunio dyfodol asesiadau TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd)?

Yn rhan o'n cymhwyster newydd TGAU Gwneud i Gymru Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd), rydym yn chwilio am awgrymiadau ar gyfer cyd-destunau newydd y gellir eu defnyddio yn ein hasesiadau. 

 

Drwy dorfoli, rydym yn chwilio am randdeiliaid o bob cwr o Gymru i gyflwyno syniadau ar gyfer cyd-destunau i’w hystyried fel sail ar gyfer cwestiynau arholiad yn y dyfodol. 

 

Ein nod yw sicrhau bod ein hasesiadau'n parhau i fod yn berthnasol ac yn adlewyrchu Cymru fodern. Mae gennym hanes cryf o ddarparu asesiadau clir a dibynadwy, ac rydym bellach yn chwilio am awgrymiadau cyd-destun y gall ein Uwch Arholwyr eu hystyried wrth ysgrifennu cwestiynau arholiad yn y dyfodol. 

 

Os hoffech gyflwyno unrhyw beth, edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin isod a chyflwynwch eich awgrym yma.