Helpwch i lunio ein cynnig o gymwysterau newydd ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed
Sylwch, mae'r arolwg hwn bellach ar gau.
Fel rhan o gynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 oed Cymwysterau Cymru, bydd CBAC yn datblygu cymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) a Chymwysterau Sylfaen cysylltiedig â gwaith. Rydym hefyd yn datblygu cymwysterau Sylfaen cyffredinol mewn nifer o bynciau.
Rydym wedi datblygu arolwg i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cymwysterau hyn.
Diben yr arolwg hwn yw casglu barn addysgwyr ar gymwysterau cyfredol ar gyfer pobl ifanc 14–16 oed, ac eithrio TGAU, er mwyn helpu i lunio ein cynnig cymwysterau newydd o 2027, gan sicrhau ei fod yn cefnogi ac yn adlewyrchu’r Cwricwlwm i Gymru a’i Bedwar Diben.
Rydym yn chwilio am farn addysgwyr sy'n addysgu yn y meysydd canlynol:
Galwedigaethol (Lefel Mynediad – Lefel 2) | Cyffredinol (Lefel Mynediad): |
Amgylchedd Adeiledig | Lefel Mynediad Cymraeg Ail Iaith |
Busnes, Cyfrifeg a Chyllid | Lefel Mynediad Cymraeg |
Chwaraeon a Hamdden | Lefel Mynediad Dylunio a Thechnoleg |
Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg | Lefel Mynediad Gwyddoniaeth |
Gwasanaethau Cyhoeddus | Lefel Mynediad Mathemateg a Rhifedd |
Lletygarwch ac Arlwyo | Lefel Mynediad Saesneg |
Manwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid | Lefel Mynediad Technoleg Ddigidol |
Peirianneg | Lefel Mynediad Y Celfyddydau Mynegiannol |
Teithio a Thwristiaeth | Lefel Mynediad Y Dyniaethau |
Y Celfyddydau Perfformio |
Byddwn hefyd yn datblygu cymwysterau Prosiect a’r Gyfres Sgiliau – fodd bynnag, nid ydym yn casglu barn ynghylch y cymwysterau hynny drwy'r arolwg hwn ond byddwn yn ceisio barn rhanddeiliaid maes o law.