Diwygio Cymwysterau Llwybrau Cymraeg Gwaith

Bwriadwn ddiwygio ein cymwysterau Llwybrau Cymraeg Gwaith. Gwnawn hyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r pwrpas, yn gyfoes ac yn adlewyrchu'r arfer da presennol o ran dylunio cymwysterau ac asesiadau. 

 

Dysgwyr ôl-16 yw cynulleidfa ein cymwysterau Cymraeg Gwaith. Byddan nhw'n dilyn dewis eang o gyrsiau mewn colegau addysg bellach, ysgolion neu'r gweithle ac angen datblygu sgiliau cyfathrebu Cymraeg yn y gweithle. Mae ennill y cymhwyster Cymraeg Gwaith yn rhoi cydnabyddiaeth ac ardystiad ffurfiol o ddefnydd unigolyn o'r Gymraeg mewn cyd-destun galwedigaethol. 

 

Gweithdai cwmpasu 

 

Nid proses fydd yn digwydd ar wahân yw diwygio'r cymwysterau newydd hyn.  Hoffem glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn niwygio'r Cymwysterau Llwybrau Cymraeg Gwaith.  Mae hyn yn cynnwys athrawon, dysgwyr, rhieni, gofalwyr, darparwyr dysg, asiantaethau, a chyflogwyr. 

 

Rydym yn cynnal gweithdy cwmpasu i gasglu eich safbwyntiau ar y cymhwyster ei hun a hefyd ar y cynigion ar gyfer diwygio.  Sesiwn awr fydd y gweithdy ond caniatawyd amser ychwanegol er mwyn rhoi cyfle i'r drafodaeth ddatblygu. Caiff ei gynnal ar 6 Tachwedd, 2024. 

 

Os hoffech ddod i'r gweithdy uchod, anfonwch e-bost at: Datblygu Cymwysterau (WJEC CBAC) datblygucymwysterau@cbac.co.uk