Diwygio Cymhwyster Lefel 3 Sylfaen Celf a Dylunio

Byddwn yn diwygio ein cymhwyster Lefel 3 Sylfaen Celf a Dylunio er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r pwrpas, yn gyfoes ac yn adlewyrchu'r arfer da presennol o ran dylunio cymwysterau ac asesiadau. 

 

Mae ein cymhwyster Lefel 3 Sylfaen Celf a Dylunio wedi'i anelu at ddysgwyr ôl-18 mewn colegau AB. Mae'n rhoi profiad trylwyr a chynhwysfawr o gelf, crefft, dylunio a chyfryngau wedi'i seilio ar egwyddorion dadansoddol, arferion archwilio ac ymchwilio, ymchwil cyd-destunol a phrofiadau materol ac yn cefnogi dilyniant i addysg uwch a/neu hyfforddiant. 

 

Gweithdai cwmpasu 

 

Nid proses fydd yn digwydd ar wahân yw diwygio y cymhwyster hwn.  Hoffem glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn niwygio'r cymhwyster Lefel 3 Sylfaen Celf a Dylunio.  Mae hyn yn cynnwys athrawon, dysgwyr, rhieni, gofalwyr, darparwyr dysg, asiantaethau, a chyflogwyr. 

 

Rydym yn cynnal gweithdy cwmpasu i gasglu eich safbwyntiau ar y cymhwyster ei hun a hefyd ar y cynigion ar gyfer diwygio.  Sesiwn awr fydd y gweithdy ond caniatawyd amser ychwanegol er mwyn rhoi cyfle i'r drafodaeth ddatblygu. Caiff ei gynnal ar 13 Tachwedd 2024 

 

Os hoffech ddod i'r gweithdy uchod, anfonwch e-bost at datblygucymwysterau@cbac.co.uk