Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn archwilio'r galw posibl am gyfres o Gymwysterau Cynaliadwyedd i fodloni anghenion dysgwyr ar draws amrywiaeth eang o leoliadau. Mae hyn mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Pedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru, a Nodau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig.
Y Diweddariad Diweddaraf: CBAC yn cyhoeddi cymhwyster cynaliadwyedd ar gyfer swyddi 'sero net' y dyfodol
Ein gweledigaeth ar gyfer y gwaith hwn yw byd lle:
- mae dysgwyr yn gadael yr ysgol yn hyderus o'u lle o ran cymdeithas a phlaned sy'n newid yn gyflym gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r meddylfryd y bydd eu hangen arnynt i'w lywio, yn barod i gyfrannu'n weithredol ati fel dinasyddion a cheidwaid dyfodol cynaliadwy
- gall addysgwyr 'ddysgu'r dyfodol' yn hyderus a chychwyn ar eu teithiau dysgu eu hunain tuag at gyflawniad proffesiynol (a phersonol)
- mae cyflogwyr yn cymryd rhan weithredol yn y daith ddysgu hon fel partneriaid, datryswyr problemau a galluogwyr sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Ein cenhadaeth yw arfogi cenedlaethau o ddysgwyr ac arweinwyr heddiw a'r dyfodol i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r meddylfryd y bydd eu hangen arnynt i ffynnu – a chyfrannu – mewn byd sy'n newid yn sgil yr hinsawdd.
Cymerwch Ran - Lefel 2 Cynaliadwyedd yn Ymarferol: Ysgogwyr Newid y Dyfodol
Rydym ar ddechrau ein taith o ddatblygu'r cymhwyster Lefel 2 Cynaliadwyedd yn Ymarferol: Ysgogwyr Newid y Dyfodol.
Bwriedir y cymhwyster seiliedig ar brojectau hwn i adeiladu ar wybodaeth y dysgwr am gynaliadwyedd ac i'w grymuso i weithredu fel 'hyrwyddwyr cynaliadwyedd' yn eu lleoliadau.
Drwy gwblhau'r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn gwneud y canlynol:
- datblygu eu dealltwriaeth o gynaliadwyedd
- deall sut i gynllunio i weithredu, drwy ddysgu am feysydd fel rheoli projectau, rheoli newid a dulliau cynllunio
- gweithredu i fynd i'r afael â chynaliadwyedd yn eu lleoliad.
Mae asesiad y cymhwyster yn seiliedig ar brojectau, gan ganolbwyntio ar gymhwyso egwyddorion ac arferion cynaliadwyedd. Hefyd, bydd gofyn i ddysgwyr adfyfyrio ar y canlyniadau ac effaith eu project drwyddi draw.
Ymunwch â'n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau
Rydym yn chwilio am unigolion i ymuno â'n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau i'n cynghori, ein hysbysu a'n herio wrth i ni symud drwy'r broses o ddatblygu cymwysterau.
Rydym hefyd yn chwilio am awduron. Os oes gennych ddiddordeb, gallwch wneud cais yma.