- - Gwneud i Gymru: mae CBAC yn barod i ddarparu
- Datblygu cyfres o gymwysterau Cynaliadwyedd
- Diwygio ein cymwysterau lefel 3
- Datblygu cyfres o gymwysterau lled-ddargludydd
Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos ag amrywiol randdeiliaid ledled Cymru i gyd-awduro cyfres newydd o gymwysterau TGAU yn rhan o broject 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru.
Bydd ein dull yn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn gynhwysol, yn ysgogol, yn ategu'r cwricwlwm, ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Penderfyniadau a'u Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer y gyfres newydd o gymwysterau TGAU. Bydd ein Tîm Datblygu Cymwysterau nawr yn ymgysylltu'n weithredol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i greu cymwysterau ysbrydoledig, arloesol a chyffrous i ddysgwyr yng Nghymru.
Cwrdd â Wyn Jones, un o’n Swyddogion Datblygu Cymwysterau, a darganfod mwy am ein proses datblygu cymwysterau.
Yma i'ch cefnogi chi
Mae'r manylebau drafft ar gyfer y don gyntaf o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig, i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025, bellach ar gael yn awr. Bydd y fersiynau cymeradwy terfynol yn cael eu cyhoeddi o fis Medi. Ym mis Rhagfyr, bydd pecyn asesu cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer pob cymhwyster, a fydd yn cynnwys trefniadau asesu manwl a deunyddiau asesu enghreifftiol, a bydd Canllawiau Addysgu yn dilyn ym mis Ionawr.
Angen mwy o wybodaeth? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni ar datblygucymwysterau@cbac.co.uk.