![](/media/v2davywt/student-writing-in-exam-hall.jpg?anchor=center&mode=crop&width=1440&height=360&rnd=133144525745570000)
Ar hyn o bryd rydym yn diwygio ein cymwysterau mewn Troseddeg, Gwyddor Bwyd a Maeth, a Gwyddoniaeth Feddygol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn adlewyrchu arfer da cyfredol mewn cymwysterau a dylunio asesiadau.
Wedi'u hanelu at ddysgwyr ôl-16 mewn addysg llawn amser, mae ein cymwysterau cymhwysol wedi'u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol trwy ddysgu cymhwysol h.y. trwy gyd-destunau pwrpasol sy'n gysylltiedig â sector neu faes pwnc.
Darllenwch fwy am bob pwnc isod.
Ymateb i'n hymgynghoriadau
Byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion cymwysterau yn ddiweddarach yn ystod tymor yr hydref. Cofrestrwch i'n diweddariadau pwnc i gael gwybod pryd y bydd ymgynghoriad pwnc yn mynd yn fyw.