CBAC Lefel 3 Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio

Rydym yn diweddaru ein cymhwyster Lefel 3 Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n gyfredol ac yn ystyried adborth gan ganolfannau.  

 

Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol gyda'r canolfannau ym mis Tachwedd 2024 er mwyn helpu i lywio ein ffordd o feddwl ac rydym erbyn hyn yn gofyn barn y canolfannau ar ein cynigion lefel uchel. Bydd yr adborth a dderbyniwn gennych yn awr yn helpu i lywio ffurf a chynnwys terfynol y cymhwyster. Mae’r cyswllt i'r ymgynghoriad i’w gael isod. 

 

Ynglŷn â'r cymhwyster 

 

Prif nod y cymhwyster yw darparu cyd-destun y gall y dysgwyr ei ddefnyddio i adeiladu ar eu profiad blaenorol, gan nodi a dehongli eu cryfderau a’r llwybrau dilyniant arbenigol mwyaf addas. Defnyddir proses o archwilio diagnostig a chynyddol o'r dulliau a'r cysyniadau sy'n benodol i Gelf, Crefft a Dylunio i gyflawni hyn. Mae'n estyn eu hannibyniaeth feirniadol ac yn galluogi dysgwyr i ddangos eu dealltwriaeth lawn o'r safonau perthnasol sy'n ofynnol i sicrhau dilyniant arbenigol.  

 

Gan fod modd dewis o fwy na chant o wahanol ddisgyblaethau israddedig ym meysydd celf, crefft a dylunio, mae cymhwyster CBAC Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn helpu dysgwyr i ddewis yn briodol ac yn eu paratoi ar gyfer Addysg Uwch neu gyflogaeth yn y dyfodol yn y disgyblaethau creadigol gweledol.  

 

Pam diwygio? 

 

Ers lansio'r cymhwyster ar ei ffurf bresennol yn 2017, mae cryn ddatblygu wedi digwydd yn y diwydiant creadigol. Felly, er mwyn ystyried y diwydiant creadigol ei hun a'r datblygiadau yn anghenion dysgwyr mae angen diweddaru'r cynnwys a'r derminoleg.  

 

Mae lle i symleiddio'r baich gweinyddol ar ganolfannau o ran asesu, a sicrhau ar yr un pryd bod mecanweithiau dyfarnu ac adrodd yn ôl yn parhau i fod yn addysgiadol ac yn gadarn. 

Cwestiynau'r ymgynghoriad 


I fynegi eich barn ar y cynigion hyn, cwblhewch yr ymateb ar-lein yma.  


> Ymgynghori ar gynigion i ddiwygio/datblygu'r cymhwyster Lefel 3 Sylfaen mewn Celf a Dylunio presennol


Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 31ain Ionawr 2025.



Cymerwch ran 

Gallwch chi gymryd rhan yn y gwaith o ddiwygio ein cymhwyster Lefel 3 Sylfaen Celf a Dylunio mewn sawl ffordd: 

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at datblygucymwysterau@cbac.co.uk