
Ar y tudalennau hyn ceir gwybodaeth am y cymwysterau a'r adnoddau y mae CBAC yn eu darparu yn benodol i faes dysgu Cymraeg i Oedolion.
Cymwysterau
Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy'n dysgu Cymraeg o'r enw Defnyddio'r Gymraeg. Mae'r gyfres yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol. Gellir ennill y cymwysterau drwy sefyll arholiadau ar ddiwrnodau penodol, ac maen nhw'n agored i oedolion sydd wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith neu sydd wrthi'n dysgu ar hyn o bryd. Does dim rhaid bod mewn dosbarth penodol er mwyn sefyll yr arholiadau na bod wedi sefyll yr arholiadau is yn gyntaf. Mae'r cymwysterau'n addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle.
Mae'r fframwaith yn y tabl isod yn rhoi arwydd o sut mae'r cymwysterau'n perthyn i'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol ac i fframwaith ALTE/Fframwaith Cyfeirio Ewrop.
Cymhwyster | Lefel yn y fframwaith | Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop |
---|---|---|
Mynediad | Mynediad | A1 |
Sylfaen | 1 | A2 |
Canolradd | 2 | B1 |
Uwch | 3 | B2 |
Dyddiadau pwysig
Newydd: Mae gwybodaeth am ddyddiadau arholiadau 2020 a'r dyddiadau cau ar gael.
ALTE
Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). Mae hon yn gymdeithas i sefydliadau sy'n cynnig arholiadau iaith ar draws Ewrop, yn cynrychioli 26 o ieithoedd gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth am ALTE ar gael. Mae Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop yn disgrifio chwe lefel o hyfedredd iaith o A1 i C2. Gellir cael hyd i'r fframwaith ar wefan Cyngor Ewrop.
Cyn-bapurau, Manylebau ac ati
I gael hyd i gyn-bapurau, llyfrynnau i ymgeiswyr a manylebau i diwtoriaid, cliciwch ar y lefel berthnasol.