Er mwyn sicrhau eich bod wedi paratoi'n llawn ar gyfer eich arholiadau ac asesiadau, dyma rai pwyntiau pwysig y mae angen i chi eu gwybod a'u cofio:
- Byddwch ar amser! Os ydych yn hwyr, efallai na fydd eich gwaith yn cael ei dderbyn
- Gwrandewch yn ofalus ar y cyfarwyddiadau a roddir gan y goruchwyliwr
- Ni chaniateir mynd â ffôn symudol nac unrhyw ddyfeisiau electronig eraill i mewn i'r ystafell arholiadau. Mae hyn yn cynnwys o fewn unrhyw asesiadau di-arholiad/asesiadau dan reolaeth a wnewch
- Dim watsh, gan gynnwys watsh clyfar i'w chael eu gwisgo na eu mynd â nhw i mewn i'r ystafell arholiad. Mae hyn yn cynnwys o fewn unrhyw asesiadau di-arholiad/asesiadau dan reolaeth a wnewch
- Peidiwch â siarad na cheisio tarfu ar ymgeiswyr eraill unwaith y bydd yr arholiad wedi dechrau
- Peidiwch â gadael yr ystafell arholiadau tan y bydd rhywun yn rhoi caniatâd i chi wneud hynny
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y Wybodaeth i Ymgeiswyr ar gyfer yr holl ganllawiau sydd eu hangen arnoch.