CBAC UG Uned 1: Gweithdy Theatr (testunau ychwanegol o fis Medi 2021)

 

A Good Clean Heart Alun Saunders 
Drama ddwyieithog sy'n adrodd stori dod i oed am ddau frawd a'u magwyd ar wahân yng ngorllewin Cymru ac yn ne Llundain, gan wahanol deuluoedd ac mewn gwahanol ieithoedd. Stori emosiynol Hefin a Jay, lle mae pethau'n mynd o fod yn wych i erchyll mewn curiad calon. Drama ddoniol, emosiynol a gwirioneddol hygyrch i bob siaradwr Cymraeg a di-Gymraeg.  

 

Broken Biscuits Tom Wells 
Stori am ddod i oed wrth i dri ffrind baratoi i adael yr ysgol. Mae'n edrych ar faterion yn ymwneud â thyfu i fyny yn ogystal â pherthnasoedd a sut mae'r rhain yn newid wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Mae hefyd yn edrych ar faterion hunaniaeth a rhywioldeb. Fe'i perfformiwyd gyntaf yn y Live Theatre, Newcastle yn 2016.  
 

Christmas is Miles Away Chloë Moss / Pryd Mae’r Haf? Gwawr Loader 
Perfformiwyd yn gyntaf yn The Studio, yn y Royal Exchange ym Manceinion, ac mae'n stori emosiynol am gyfeillgarwch yn ystod y glasoed. Bechgyn arferol un-ar-bymtheg oed arferol o Fanceinion yw Luke a Christie. Maen nhw'n hoffi gwersylla, yfed cwrw a siarad am ferched. Ond pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol a'u bywydau'n mynd i gyfeiriadau gwahanol, a fydd tir cyffredin rhyngddyn nhw o hyd? Perfformiwyd y cyfieithiad Cymraeg yn ddiweddar gan Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru.  
 

Eight Ella Hickson 
Drama gyntaf y dramodydd. Cyfres o wyth monolog 15 munud o hyd yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd i genhedlaeth sydd wedi'i magu mewn byd lle mae popeth yn dderbyniol. Ffurfiwyd y ddrama o amgylch canlyniadau arolwg a oedd yn holi pobl yn eu hugeiniau beth oedd yn diffinio'u cenhedlaeth; Ceisiodd Hickson gyfleu eu hymateb unfrydol bron o 'ddifaterwch', gyda sioe sy'n ceisio dod o hyd i lygedyn o ffydd ymysg sinigiaeth lwyr.  
 

Emilia Morgan Lloyd Malcolm 
Drama sy'n edrych ar fywyd Emilia Bassanio, y bardd o'r 17eg ganrif. Mae'n archwilio'n frwd rôl menywod creadigol mewn cymdeithas a'u brwydr i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Cafodd y perfformiad clodfawr cyntaf ei gynnal yn Globe Shakespeare yn 2018. Enillodd dair Gwobr Olivier, yn cynnwys Drama Adloniant neu Gomedi orau. 
 

Everybody’s Talking About Jamie Dan Gillespie a Tom MacRae 
Wedi'i ysbrydoli gan stori wir, mae Everybody's Talking About Jamie yn sioe gerdd boblogaidd ac arobryn sy'n berthnasol heddiw. Modern, cyfoes a pherthnasol. Gyda chefnogaeth ei fam a'i ffrind gorau, mae Jamie yn goresgyn rhagfarn, mae'n trechu'r bwlis ac yn camu o'r tywyllwch i wres y golau cylch. Gan ddathlu amrywiaeth a balchder ynoch chi eich hun, mae hwn yn destun poblogaidd ac ingol i bobl ifanc.  
 

Hang Debbie Tucker Green 
Drama bwerus sy'n archwilio cyfyng-gyngor menyw wrth wneud penderfyniad arswydus. Mae'n archwilio'r gwrthdaro rhwng cymeriad y fenyw a'r system mewn gwlad na enwir. Golwg ar y berthynas agos rhwng cyfiawnder a dial, lle mae gan y dioddefwr gyfle i benderfynu ar dynged y troseddwr.  
 

Heritage Dafydd James 
Comisiynwyd y ddrama yn rhan o raglen National Theatre Connections yn 2014. Gŵyl Fai ym mhentref Northbridge, ac mae grŵp o blant yn ymgynnull mewn cawell wedi'i thrydanu. Yn ôl pob golwg, maen nhw yno i ymarfer eu perfformiad o anthem y pentref tra, y tu hwnt i'r golwg, mae'r oedolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Gŵyl Fai traddodiadol, ac sy'n swnio braidd yn amheus ('Dance of the Horned Goat'). Ond yn raddol, daw'n amlwg bod y grŵp hwn o blant nad ydynt yn ffitio i mewn wedi cael eu corlannu am resymau gwahanol iawn. 

 

Killology Gary Owen 
Mae gêm gyfrifiadurol ddadleuol newydd yn ysbrydoli cenhedlaeth. Yn Killology, mae chwaraewyr yn cael eu gwobrwyo am arteithio dioddefwyr, gan ennill pwyntiau am "greadigrwydd". Ond nid yw Killology yn anfoesol. Yn wir, mae'n cael ei marchnata gan y miliwnydd a'i creodd fel profiad hynod foesol. Oherwydd ydy, mae'n bosibl profi eich ffantasïau tywyllaf, ond nid ydych chi'n dianc rhag eu canlyniadau. Ar y strydoedd, nid yw pawb yn cytuno ag ef. 
 

Lysh Aled Jones Williams 
Drama seicolegol sy'n ymdrin ag effeithiau alcoholiaeth a sut mae profiadau'r gorffennol yn effeithio ar y presennol. Cyfres o fonologau sy'n cael eu plethu gan gymeriad y Seicolegydd sy'n ceisio helpu'r cymeriadau i wynebu realiti eu sefyllfa.  
  

Moon on a Rainbow Shawl Errol John 
Mae'r ddrama wedi'i gosod mewn cymuned yn Trinidad ar ôl yr ail ryfel byd. Mae'n archwilio gwleidyddiaeth chwaraeon a rhywioldeb a sut mae'r cymeriadau'n breuddwydio am ddianc. Fe'i hystyrir yn destun pwysig sy'n archwilio themâu a chymeriadau newydd ac fe'i disgrifiwyd fel 'cam arwyddocaol i ysgrifenwyr du ym Mhrydain'.  
 

Nine Night Natasha Gordon 
Drama ddoniol sy'n edrych ar ddefodau mewn gŵyl naw-noson yn Jamaica. Mae'r ddrama'n archwilio teulu a'r cysylltiadau rhwng cenedlaethau. Mae'n llawn bywyd ac yn dathlu bywyd. Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn y Theatr Genedlaethol yn 2018.  
 

The Barber Shop Chronicles Inua Ellams 
Mae pedair cenhedlaeth o ddynion Affricanaidd wedi ymgynnull mewn siopau barbwr i drafod y byd. Dyma leoedd lle mae hwyl i'w gael wrth dorri gwallt a lle mae'r gwir yn dod allan bob amser. Drama newydd ddoniol a chraff sy'n cynhesu'r galon ac sy'n neidio o Peckham i Johannesburg, Harare, Kampala, Lagos ac Accra dros un diwrnod.  
 

The Mountaintop  Katori Hall 
Mae'r ddrama wedi'i gosod ar drothwy llofruddiaeth Martin Luther King, wrth iddo baratoi i wneud ei araith 'I've Been to the Mountaintop' yn ei ystafell motel. Mae'n stori hanesyddol-ffantasïol gyda dau gymeriad, ac fe enillodd wobr Olivier am y ddrama newydd orau yn 2009. Mae'n dorcalonnus, yn ddoniol ac yn syfrdanol o bwerus. Mae'n parhau i fod yn berthnasol heddiw, gan archwilio bod yn aelod o'r ddynol ryw yn wyneb marwolaeth anorfod.  
 

Tituba Winsome Pinnock Dehongliad arall o dreialon gwrachod Salem o safbwynt Tituba Indian, y caethwas. Mae'n trafod hiliaeth, rhagfarn ac ofn. Mae'r monolog hefyd yn archwilio agweddau tuag at grefydd a chydymffurfiaeth. Mae'r ddrama wedi dod o Women Centre Stage; casgliad o wyth drama fer, sydd gyda'i gilydd yn dangos ystod, dyfnder a chyfoeth gwaith ysgrifennu gan fenywod ar gyfer y llwyfan.