Trosolwg o gymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
I weld y Fanyleb a Dogfennau Allweddol ar gyfer y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd ewch i dudalen y cymhwyster.
Bydd cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd yn seiliedig ar benderfyniadau allweddol a ddeilliodd o ymgynghoriad Cymwysterau Cymru:
- Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol yn cael ei thynnu. Bydd dyfarniad terfynol y cymhwyster yn Haf 2024.
- Bydd cymhwyster Lefel 3 newydd yn cael ei gyflwyno i gymryd lle'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch. Bydd ar gael i ddysgwyr o fis Medi 2023, ac fe’i dyfernir am y tro cyntaf yn Haf 2025.
- Bydd maint a gofynion y cymhwyster newydd yn gywerth â Safon Uwch a bydd yn cael ei raddio A*-E.
- Bydd y cymhwyster newydd ar gael fel cymhwyster annibynnol y gellir ei gymryd ochr yn ochr â chymwysterau cyffredinol a galwedigaethol eraill fel rhan o raglen ddysgu amrywiol.
Digwyddiadau hyfforddi
Paratoi i Gyflawni Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiadau dysgu proffesiynol ‘Paratoi i Gyflawni Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch’ am ddim hydref yma.
Briffio Cymhwyster Newydd: Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (digwyddiad yn y gorffennol)
Mae CBAC yn datblygu cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch Lefel 3 newydd a fydd yn disodli’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol. Bydd y cymhwyster newydd ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2023.
Bydd y digwyddiad briffio ar-lein 30 munud hwn yn rhoi trosolwg o'r cymhwyster newydd, ei gynnwys a'i strwythur asesu, a sut y bydd y cymhwyster o fudd i ddysgwyr. Cynhelir sesiwn Holi ac Ateb a bydd cyfle i anfon cwestiynau cyn y sesiwn.
Mae’r digwyddiad wedi'i anelu at ddylunwyr cwricwlwm, Cydlynwyr Tystysgrif Her Sgiliau Uwch ac eraill sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cymhwyster. Bydd y sesiwn yn cael ei arwain gan Reolwr Fframwaith CBAC a Swyddogion Cymorth Rhanbarthol.
I wylio recordiad o'r briffio, cliciwch yma.
Cliciwch yma i weld Cwestiynau Cyffredin o'r sesiynau briffio diweddar.